Llwybr yr ystâd yn Nolaucothi
Mae’r llwybr hwn yn eich arwain i’r man uchaf ar ystâd Dolaucothi. Mae golygfeydd anhygoel i’w gweld yma, a phwy a wyr – mae’n bosib y cewch chi gip ar wiwer goch neu hyd yn oed fele’r coed ar eich taith.

Dechrau:
Maes parcio Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, cyfeirnod grid: SN662403
1
Dechreuwch ym maes parcio Mwyngloddiau Aur Dolaucothi. Croeswch y ffordd i ddechrau eich taith ar hyd llwybr ystâd Dolaucothi.
Mwynglawdd Aur
Defnyddiwyd y mwynglawdd gan y Rhufeiniaid mor bell yn ôl â 75 OC. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu y gallai fod wedi cael ei gloddio cyn hynny hefyd. Cafodd ei gloddio’n ysbeidiol yn ystod yr 19eg a’r 20fed ganrif.
2
Dilynwch y llwybr. Ar eich llaw dde fe welwch Barc Carafanau tawel Ystâd Dolaucothi.
Parc carafanau ystâd Dolaucothi
Mae’r maes carafanau’n swatio mewn darn o dir sy’n cael ei alw’n ‘Ogofau’. Fe grëwyd y tirlun gan y Rhufeiniaid, wrth iddyn nhw gloddio i lawr o wyneb y tir, gan ddefnyddio dim ond teclynnau dwylo cyntefig. Mae’r maes carafanau hwn wedi’i amgylchynu gan ddigonedd o hanes, daeareg, bywyd gwyllt a golygfeydd prydferth. Mae’r safle hwn yn un o drysorau cudd Sir Gaerfyrddin ac mae’n fan gwych am wyliau.
3
Croeswch y bont. Mae’n fan hyfryd ar gyfer picnic.
Safle picnic a’r bont
Adeiladwyd y bont yn wreiddiol dros y Cothi yn 1836, fel rhan o’r lôn a oedd yn arwain at fynedfa Ogofau Lodge. Eisteddwch yn dawel ac efallai y cewch chi gip ar ddyfrgi, gwennol y glennydd, glas y dorlan neu grëyr glas.
4
Cerddwch ar hyd yr ardd furiog a daliwch i fynd gan ddilyn yr arwyddion llwybr coch.
Yr Ardd Furiog
Fferm Dolaucothi a gweddillion y plasty a'r ha-ha. Y cwbl sydd ar ôl o’r plastai gwreiddiol yw ardal y gweision a’r gegin sy’n rhan o’r tŷ fferm presennol. Roedd yr ha-ha, y wal a’r ffos yn helpu cadw anifeiliaid fferm bant o’r lawntiau tra’n cadw’r olygfa agored ar draws y parcdir. Roedd y wal fawr yn amgylchynu’r ardd furiog oedd yn sownd i’r ty.
5
Ewch mewn i’r cae a chadw at yr ochr dde nes i chi gyrraedd y top lle mae’r goedwig yn dechrau.
Yr olygfa o’r cae top
Ar y bryn gyferbyn, gallwch weld olion hen ddyfrffos a thanc dŵr Rhufeinig. Mae’r cyntaf yn edrych fel craith hir a’r ail yn edrych fel ‘tolc’ mawr yn y ddaear. Cadwch i’r chwith ac ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr drwy’r goedwig.
6
Cerddwch drwy’r goedwig. Mae nant fach bert yn rhedeg ar hyd y llwybr; ar un adeg roedd hon yn pweru melin lifio gerllaw fferm/plasty Dolaucothi
7
Dringwch i’r piler triongli sy’n rhoi golygfa wych i chi o gwm Cothi. Dyma’r pwynt uchaf ar yr ystâd ac ar uchder o 308 llath (282m) rhaid dringo rhywfaint i’w gyrraedd.
8
Cerddwch ar hyd yr hen reilffordd
Yr hen reilffordd
Mae hon yn rhan o hen reilffordd a adeiladwyd yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Roedd yn cario pren i lawr o’r cwm uwchben, ac roedd yn dal i gael ei defnyddio hyd at yr 1940au hwyr. Dechreuodd ddirywio bryd hynny ac fe gafodd ei datgymalu.
9
Dewch i weld y ganolfan ymwelwyr ym Mhumsaint. Mae’r hen Dŷ Coets bellach yn ganolfan barcud coch a chanolfan ymwelwyr, ac fe gewch ddysgu llawer am hanes diddorol y pentref a’r ystâd yno.
Diwedd:
Maes parcio Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, cyfeirnod grid: SN662403