Cerflunwaith Cymru yng Ngerddi Dyffryn

Fel rhan o’n gwaith adfywio, ry’n ni wedi manteisio ar ein cysylltiadau artistig a gwahodd aelodau Cerflunwaith Cymru i gynllunio darnau o waith celf ar gyfer llwybr dros dro o amgylch yr ardd goed a’r gerddi eraill.

Byddai llawer o bobl yn gweld gardd brydferth fel darn o waith celf, a dyma’n union sut rydyn ni’n gweld Dyffryn; fel darn byw o gelf arddwriaethol a gomisiynwyd gan y casglwr planhigion Reginald Cory, a chynlluniwyd gan y cynllunydd gerddi Edwardaidd adnabyddus, Thomas Mawson yn 1906.

Yn nyddiau Reginald Cory roedd y gerddi’n ffynnu, ond aethon nhw drwy gyfnod o ddirywiad yn ddiweddarach yn ystod y ddau ryfel byd pan aeth y garddwyr i ryfel. Dim ond ychydig o’r garddwyr oedd ar ôl i ofalu am y blodau a’r coed. Daeth cyfnod brith yn hanes yr ardd wedi hynny, a defnyddiwyd y safle fel canolfan gynadledda ar gyfer awdurdod lleol yn bennaf. Mae pwysigrwydd y gerddi wedi mynd a dod, ond yn y blynyddoedd diwethaf cafwyd nifer o gynlluniau uchelgeisiol a chyffrous i adfer y tŷ a’r ardd.

Ochr yn ochr â’r gwaith i adfywio Dyffryn, rydyn ni wedi manteisio ar ein cysylltiadau artistig gan wahodd aelodau Cerflunwaith Cymru i gynllunio darnau ar gyfer llwybr dros dro o amgylch yr ardd goed a’r gerddi eraill.

Mae’r cerfluniau sy’n rhan o’r arddangosfa ‘Lle’ yn archwilio gwahanol agweddau ar ein hanes, ein cynllun a’n cyfoeth o blanhigion. Bydd y llwybr yn dilyn hanes yr ardd o’r dechrau, drwy flynyddoedd y rhyfel pan fu bron iddi ddiflannu, hyd at heddiw wrth iddi ddychwelyd i’w hen ogoniant. Bydd y llwybr yn cyd-ddigwydd gyda blwyddyn lysiau’r Rhyfel Byd Cyntaf 2017, pan fydd ein borderi a’n gwelyau blodau’n cael eu llenwi gyda winwns, tatws, gowrdiau addurniadol a llawer mwy er mwyn adlewyrchu ymdrech ryfel 1917.

Wedi'u gosod yn eu lle

Yn dod yn fuan