Fe greodd ef a’i wraig Victoria Cust Ystafell Gerddorol yn y Neuadd Groeso hefyd, a symudwyd y fynedfa i Ystafell y Llwythau. Wedi ei farwolaeth yn 1894, symudodd ei fab Philip yn ôl i Erddig.
Cyfnod o galedi
Ychydig iawn o newidiadau a wnaeth Philip Yorke II a’i wraig Louisa Scott i Erddig, ond gweithiodd y ddau i warchod y tŷ a’i gynnwys gyda chymorth llawer llai o weision.
Fe wnaeth Simon Yorke IV etifeddu Erddig yn 1922 pan oedd yn 19 mlwydd oed. Roedd yr ystâd mewn dyfroedd dyfnion ariannol ac ychydig iawn o staff oedd yn weddill. O ganlyniad i wladoli’r Bwrdd Glo yn 1947 dechreuwyd cloddio am lo dan y tŷ, a suddodd y tŷ yn ddifrifol oherwydd hynny.
Enciliodd Simon o fywyd cymdeithasol. Doedd ganddo ddim trydan na ffôn, a dechreuodd osgoi’r byd a’r betws. Dirywiodd Erddig ond gwrthododd Simon gael gwared ar unrhyw beth ac arhosodd popeth fel yr oedd.
Philip Yorke III - trosglwyddo Erddig
Etifeddodd Philip Yorke III Erddig pan fu farw ei frawd. Nid oedd yr un o’r ddau frawd erioed wedi priodi, felly cychwynnodd Philip drafodaethau i drosglwyddo Erddig i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Daeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchnogion yn 1973 a chychwynnodd cyfnod pedair blynedd o adfer Erddig.
Bu farw Philip yn 1978. Ond fel Sgweier olaf Erddig, cafodd Philip fyw yn ddigon hir i weld adfer gogoniant gwreiddiol Erddig a oedd yn gyfarwydd iddo pan yn blentyn.