Ardal i gŵn redeg yn rhydd
Rydym yn cynnig 'ardal rhedeg yn rhydd" i gŵn gerllaw Melin Puleston. Ar ôl gweithio gyda'n ffermwyr tenant, rydym wedi cytuno i lansio ein hardal rhedeg yn rhydd gyntaf ar 1 Chwefror 2020. Mae yna arwyddion clir a ffensys ac mae'r afon yn gweithredu fel ffin naturiol i'r ardal.
Yn ogystal â hyn, mae cŵn yn rhydd i archwilio ein holl goetiroedd gan gynnwys Coed Mawr, Coed y Llys, Coed Fforest, Coed y Glyn a Choed Lewis. Fodd bynnag, gofynnwn i berchnogion cŵn fod yn ystyriol o ymwelwyr eraill a bod yn ymwybodol bod yn rhaid cadw cŵn dan reolaeth effeithiol bob amser. Golyga hyn fod rhaid i gŵn fod o fewn golwg bob amser ac ymateb i orchmynion llafar pan fyddant oddi ar dennyn.
Gofynnwn hefyd i berchnogion cŵn sicrhau bod eu cŵn yn aros ar dennyn ym mhob man agored nad yw wedi'i nodi'n glir fel ardal rhedeg yn rhydd. Mae hyn yn caniatáu i ni gadw ystâd Erddig fel man agored i bob ymwelydd ei fwynhau wrth amddiffyn y da byw a'r bywyd gwyllt sydd hefyd yn galw Erddig yn gartref.
Trwy ddarparu ardal bwrpasol i gŵn gael mwynhau rhedeg yn rhydd yn ychwanegol at y nifer fawr o goetiroedd sydd gennym ar draws ein hystâd 1200 erw, gobeithiwn fod hwn yn gydbwysedd sy'n caniatáu i Erddig aros yn lle arbennig i'w fwynhau gan bawb.
Wardeniaid Cŵn Erddig
Rydym wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr o Acorn Kennels, sy'n cael ei gontractio gan gyngor Wrecsam a sefydliadau eraill fel wardeiniaid cŵn. Mae'r cwmni wedi bod yn siarad â'n hymwelwyr am ein cynlluniau a phwysigrwydd cadw cŵn dan reolaeth o amgylch da byw, yn enwedig yn ystod y tymor ŵyna.
Os ydych yn gweld y wardeniaid o gwmpas, cofiwch ddweud helo, byddem yn gwerthfawrogi eich adborth. Gallwch hefyd gysylltu â'n tîm ystâd ar 01978 355314 neu drwy anfon neges e-bost i: erddig@nationaltrust.org.uk
Y cŵn a'r gyfraith
Mae'r gyfraith ar gŵn yn nodi:
Mae yn erbyn y gyfraith i adael i gi fod allan o reolaeth yn beryglus yn unrhyw le, megis:
• mewn man cyhoeddus
• mewn man preifat, fel tŷ neu ardd cymydog
• yng nghartref y perchennog
Mae hyn yn debyg i is-ddeddfau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r cod cefn gwlad yr ydym yn cadw ato.