Blog dydd Sul yn yr Eisteddfod

Twm Elias, Eisteddfod

Beth sydd mewn enw?

Mae Bwthyn yng Ngogledd Cymru o'r enw Two Hoots. Fel y gallwch ddyfalu, nid dyma'i enw gwreiddiol. Roedd y perchnogion newydd, am resymau sy'n anhysbys i bawb ond eu hunain, am cael gwared o’r enw Cymraeg – er ei fod wedi bodoli ers cyn cof – a phenderfynodd roi iddo enw Saesneg haws ei ynganu. Mae dweud nad oedd hyn yn mynd i lawr yn dda gyda'r gymuned yn dipyn o danddatganiad. Wedi'r cyfan, roedd y bwthyn wedi cael ei adnabod gan ei hen enw Cymraeg gan eu cyndadau ers cenedlaethau. Pam y dylai'r newydd-ddyfodiad hwn eu lladrata o'r darn bach hwn o hynodrwydd lleol?

Lleisiant eu pryderon, gan ei annog i glynu gyda'r enw gwreiddiol. Daeth canlyniad i'r ple hwn i'r amlwg ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. Mae'r enw Two Hoots, wedi ei gerfio’n falch ar blât enw newydd, yn disgrifio'n huawdl agwedd y newydd-ddyfodiad at bryderon ei gymdogion newydd.

Dyma un o'r o'r cyfoeth o ffeithiau diddorol (ac arswydus) a ddaeth i'r amlwg yn un o'n Sgyrsiau Shed heddiw yn yr Eisteddfod. Y siaradwr oedd Twm Elias, sy'n uchel ei barch yng Nghymru fel darlledwr, storïwr, arbenigwr ar arwyddion dywydd ac yn un o hoelion wyth yr storfa ar-lein o cofnodion natur, Llên Natur a golygydd y cylchgrawn Fferm yn Thyddyn.

Diddanodd Twm y gynulleidfa gyda araith chwilfrydig a doniol am yr hanesion difyr sy'n gorwedd y tu ôl i gynifer o'n henwau lleoedd. Ymhlith ei esboniadau difyr oedd chwedl y cawr a roes yr Wyddfa ei enw gwreiddiol, Gwyddfa Rhita Gawr, a’r pentref yn Sir y Fflint a elwir yn Sodom. Cafodd hwn ei enw oherwydd ymddygiad anfoesol y cloddwyr plwm a fu'n byw yn y rhan honno o'r mynydd. Wnaeth llysenw y brodorion parchus cydio, ac mae bellach yn parhau fel un o'r enwau Beiblaidd rhyfeddaf a fabwysiadwyd gan gynifer o drefi a phentrefi a ddaeth i'r amlwg yn sgîl chwyldroadau diwydiannol a chrefyddol y 19fed Ganrif.

Roedd tipyn o dro yng nghwnffon y sgwrs ddifr a bywiog hwn. Ar ôl ein hargyhoeddi bod ein cefn gwlad yn drysor ieithyddol y gellir ei ddathlu a'i drysori, fe'n hatgoffwyd wedyn, er bod ein tirweddau a'n hadeiladau hanesyddol wedi'u diogelu'n gyfreithlon, gall perchnogion dros-dro gael gwared ar eu henwau heb unrhyw atebolrwydd cyfreithiol.

Mae hyn hefyd yn atgoffa'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ein bod yn geidwaid cymaint mwy na adeiladwaith ein hadeiladau, tirweddau a chynefinoedd bywyd gwyllt.