Chwedlau, traddodiadau a straeon hudolus Cymru

Footpath at Cwm Idwal, Snowdonia

Archwiliwch y mythau, chwedlau a llên gwerin sydd wedi llywio tirweddau hynafol Cymru. O darddiad y ddraig goch Gymreig enwog yng ngogledd Cymru, i lyn swynol yn ne Cymru, mae stori hudolus i bawb.

Mythau a chwedlau gogledd Cymru

Mythau a chwedlau de Cymru

Traddodiadau Cymreig

Couple on a beach in Pembrokeshire

Diwrnod Santes Dwynwen, 25 Ionawr

A ydych chi wedi clywed am nawddsant cariadon Cymru? Cwympodd Dwynwen, merch harddaf y Brenin Brychan Brycheiniog, mewn cariad â Thywysog o’r enw Maelon, fodd bynnag, nid oeddynt yn medru priodi. Wedi torri’i chalon, erfynnodd Dwynwen ar Dduw i’w helpu i anghofio amdano, felly anfonodd angel ati a roddodd ddiod hud iddi er mwyn anghofio popeth am Maelon a’i droi'n dalp o rew. Yna, rhoddodd Dduw dri dymuniad iddi. Dymunodd i Maelon gael ei ddadmer, dymunodd na fyddai byth yn priodi, a dymunodd i holl ddyheadau a breuddwydion pob cariad gael eu gwireddu. Daeth y tri dymuniad yn wir, ac i ddangos ei diolchgarwch, ymroddodd Dwynwen ei bywyd i Dduw, gan sefydlu lleiandy ar ynys Llanddwyn, y mae ei olion i’w gweld hyd heddiw.

Yr olygfa o Garn Llidi

Dydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth

Ar 1 Mawrth, mae Cymry o bedwar ban byd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, nawddsant Cymru. Gyda phobl yn dathlu gyda chennin Pedr melyn llachar, gwisgoedd traddodiadol lliwgar, gorymdeithiau dreigiau ac yn morio canu’r anthem genedlaethol, mae'n un o ddyddiau mwyaf bywiog y flwyddyn i ninnau hefyd! Wedi’i eni yn ystod y 6ed ganrif yn Sir Benfro, Dewi yw unig nawddsant Prydain a gafodd ei eni yma, ac mae ganddo sawl stori a gwyrth sy’n gysylltiedig ag ef. Ewch am dro i Benrhyn Dewi, Sir Benfro, i ddysgu mwy am ei fywyd, neu i ymuno â’r Cymry ar 1 Mawrth a gwisgwch gennin Pedr neu genhinen ar eich llabed, coginiwch wledd o gawl neu deisennau bri, ac ymunwch â’r parti mewn gorymdaith neu gyngerdd lleol i chi.

A bonfire with a dark misty wood behind.

Nos Calan Gaeaf, 31 Hydref

Mae Nos Calan Gaeaf yn nodi diwedd y cynhaeaf a dechrau'r gaeaf. Ar y noson hon, byddai pentrefwyr yn dawnsio o amgylch coelcerth cyn gosod cerrig gyda’u henwau wedi’u hysgrifennu arnynt yn y tân. Wrth i'r tân ddechrau diffodd, byddai’r pentrefwyr i gyd yn rhedeg adref er mwyn bod yn ddiogel rhag yr Hwch Ddu Gwta, sef hwch frawychus ddu heb gynffon, a oedd yn crwydro cefn gwlad gyda'r Ladi Wen, gan eu bod yn credu y byddai’n dwyn eu heneidiau petaent yn loetran yn rhy hwyr. Fodd bynnag, byddai'r pentrefwyr yn dychwelyd at y goelcerth y bore canlynol i archwilio eu cerrig. Os oedd eu carreg wedi'i llosgi'n lân, y gred oedd bod hyn yn lwc dda, ond os oedd eu carreg ar goll, roedd yn cael ei ystyried i fod yn ddrwgargoel o'u marwolaeth arfaethedig.

A traditional Mari Lwyd with a horse skull head, mane of streamers and a crown of foliage

Mari Lwyd, Canol gaeaf

Gyda phenglog ceffyl, peli addurno fel llygaid, a mwng o addurniadau lliwgar, fyddwch chi byth yn anghofio'r tro cyntaf i chi weld Mari Lwyd. Yn ystod nosweithiau tywyll y gaeaf, yn aml rhwng Dydd Nadolig a Nos Ystwyll, mae Mari a'i chriw yn teithio drwy bentrefi Cymru, gan greu digonedd o ddrygioni ar hyd y ffordd. Maent yn gofyn i ddod i mewn i bob tŷ drwy gyfres o benillion neu 'bwnco', ac mae’r unigolion sydd y tu mewn yn ymateb gyda'u penillion eu hunain, gan roi esgus pam na all Mari ddod i mewn. A dyna ddechrau brwydr o odlau chwareus. Os yw perchennog tŷ yn caniatau i Mari a'i chriw ddod i mewn, rhoddir bwyd a diod iddynt, a’r gred oedd y byddai’r aelwyd yn cael ei gwobrwyo gyda lwc dda am y flwyddyn.