Coron i’n Bardd ni

Eisteddfod crown winner Elinor Gwynn with silversmith Deborah Edwards

Seremoni’r coroni yw un o uchafbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Eleni, yn yr ŵyl a gynhaliwyd yn Y Fenni, aeth yr anrhydedd honno i Elinor Gwynn, ein Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg ni.

Mae swyddfa Elinor yng Nghastell Penrhyn, Gwynedd ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar draws Cymru fel Swyddog Treftadaeth Iaith.  Dros gyfnod o dair blynedd mae’n edrych ar sut allwn wneud y mwyaf o ddiwylliant dwyieithog unigryw Cymru.  Mae hi’n gweithio gyda staff a gwirfoddolwyr yn ogystal â phartneriaid allanol i ddarparu cyngor a chefnogaeth a chyflwyno gweithgareddau a fydd yn helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fod yn sefydliad dwyieithog blaenllaw. 

Mae hi hefyd yn fardd dawnus (er efallai nad yw hi’n sylweddoli hynny) ac mae ei gallu i drin geiriau nawr wedi cael ei gydnabod gan yr Eisteddfod Genedlaethol.  Cyflwynir coron yr Eisteddfod bob blwyddyn am gasgliad o gerddi a’r testun eleni oedd ‘Llwybrau’.  Mae’r cystadleuwyr yn cyflwyno eu gwaith o dan ffugenw ac felly nid oes neb yn gwybod pwy sydd wedi ennill nes bydd ef/hi yn codi ar ei draed neu ar ei thraed yn y Pafiliwn. 

Teimlad o gymuned 

Dywedodd Elinor: “Er cymaint yr wyf yn mwynhau ysgrifennu, nid oeddwn erioed wedi dychmygu y buaswn yn gwisgo coron yr Eisteddfod rhyw ddydd.  Rwyf wedi bod mor ffodus i ennill y goron arbennig hon gyda'i delweddau o dirweddau, bywyd gwyllt, adeiladau, traddodiadau a chwedlau cwr o Gymru yr wyf yn raddol wedi dod i’w hadnabod a’u caru dros y degawd diwethaf. 

“Roedd y seremoni ei hun yn hyfryd ac yn llawer mwy hamddenol nag yr oeddwn wedi’i ddisgwyl, ond y peth rwyf yn ei gofio fwyaf yw’r llu o gyfarchion gan bobl o bob rhan o Gymru a’r teimlad anhygoel o gymuned gyfan yn dathlu parhad traddodiad hynafol.” 

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad blynyddol o iaith a thraddodiadau Cymru a gynhelir yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.  Mae creu coron yr Eisteddfod yn gomisiwn arbennig, a oedd hefyd yn foment bwysig yng ngyrfa Deborah Edwards y gof arian o Sir Fynyw. 

Tirweddau a chwedlau 

Mae’r goron bob amser yn cael ei chreu gan grefftwr o’r ardal lle cynhelir yr Eisteddfod.  Ffurfiodd Deborah, sydd â gweithdy rhwng Y Fenni a Brynbuga, ei choron hi o gyfres o ffenestri cymalog sy’n darlunio gwahanol agweddau o dirwedd Sir Fynwy - megis Neuadd Farchnad Y Fenni, mynyddoedd Ysgyryd Fawr, y Cymin a Phen-y-fâl, ffenestr yn Abaty Tyndyrn, Pont Hafren a Thwrch Trwyth, baedd enwog o’r Mabinogi.  Cafodd yr edafedd glas yng nghanol y goron hefyd ei wehyddu â llaw yn lleol gan y gwehydd Sioni Rhys, a ddefnyddiodd wehyddiad Llanofer lleol a thraddodiadol. 

Dywedodd Deborah: “Roeddwn wir eisiau gweithio ar y comisiwn hwn ac mae wedi bod yn un o’r pethau mwyaf cyffrous i mi ei wneud erioed.  Roedd y seremoni ei hun yn anhygoel ac rwyf yn falch iawn fy mod wedi cael bod yn rhan ohoni.” 

Gallwch wylio fideo o Elinor yn cael ei choroni yma: <http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/36943406>