Darganfyddwch Gymru yr haf hwn

Plant yn bwyta hufen iâ

Os hoffech ddringo copa neu syrffio ton, boddi mewn byd natur a hanes, treulio amser hwyliog gyda’r teulu neu fwynhau ychydig o lonydd ar eich pen eich hun gyda binocwlars a sach ar eich cefn, mae yna fannau arbennig yng Nghymru i chi - #SpecialPlaces.

Mae Cymru yn gartref i adeiladau gwych, o’r cestyll dramatig a phlas-dai crand i’r bythynnod bach hynod, pob un â’i stori am orffennol diddorol ein gwlad. Mae caer ganol-oesol Y Waun ger Wrecsam, sy’n edrych draw dros filltiroedd o dir ffiniol y gororau, mor fawreddog heddiw ag yr oedd hi pan godwyd hi gan Edward 1 – ynghyd â’r dwnsiynau, arfau a chyffion.
 
Plymiwch i ddyfnderoedd 500 mlynedd o hanes aristocrataidd (a chynllwynion) yn Nhŷ Tredegar ger Casnewydd, adeilad o’r 17eg ganrif a chartref i un o’n teuluoedd Cymreig pwysicaf, y Morganiaid. Neu profwch fywyd fel morwyn neu was yn Erddig ger Wrecsam – ein Downton Abbey ni yng Nghymru, lle mae’r straeon dan-y-grisiau mor ddiddorol â rhai y byddigion.
 

Trysorau mawr a bach

Darganfyddwch drysor bach o le, fel Tŷ Mawr, yn nyfnder harddwch dyffryn Conwy. Y bwthyn bach carreg hwn oedd man geni yr Esgob William Morgan, y cyntaf i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Neu ymwelwch a thŷ crwn y Kymin yn Sir Fynwy lle bu’r cariadon enwog, yr Arglwydd Nelson a’r Fonesig Hamilton, yn aros – ac os y’ch chi’n rhamantus, mae croeso i chi briodi yno hefyd!
 
Ewch am dro bach drwy hanes garddwriaethol yn ein gerddi: Castell Powis ger y Trallwng gyda’i derasau ffurfiol, baróc ar hyd y llethrau; tirwedd tonnog Parc Dinefwr yn Sir Gaerfyrddin, a gynlluniwyd gan Capability Brown; gerddi dramatig Bodnant ger Conwy, sy’n gampwaith o gynllunio Fictoraidd ac Edwardaidd; a Gerddi Dyffryn ger Caerdydd, sy’n cael eu hadfer i anterth eu dyddiau yn y 1920’au.
 
Ry’n ni’n caru’n bywyd gwyllt hefyd. Ewch i Ardd Goedwig Colby yn Sir Benfro i weld cadwraeth ar waith mewn man fu unwaith yn faes glo, ond lle mae natur wedi dychwelyd â’i choedwigoedd, dolydd a nentydd sy’n hafan i adar, pili-palaod a dwrgwn, hyd yn oed. Mae Llanerchaeron yng Ngheredigion yn ystâd weithiol ac yn SSSI ar yr un pryd, lle mae ffermio, garddio a bywyd gwyllt yn mynd law yn llaw. Gallwch weld sgiliau traddodiadol ar waith yma – a rhoi cynnig arni eich hunan, hyd yn oed. A byddai’n anghwrtais i ni beidio cyfeirio at Wiwerod Cochion Plas Newydd ar Ynys Môn, lle ry’n ni’n rhoi hwb i’r boblogaeth gynhenid, sy’n prysur gynyddu, trwy focsys nythu a gorsafoedd bwydo.
 
Gan Gymru mae rhai o’r traethau gorau ac mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am 157 milltir ohonyn nhw, pob un â’i olygfeydd godidog, yn llawn bywyd gwyllt a llu o weithgareddau awyr agored. Dewiswch eich man – a mwynhewch wledd o brofiadau bywyd gwyllt, yn ddolffiniaid, morloi, adar a chreaduriaid môr, neu wyliau llawn egni yn caiacio neu rwyf-fyrddio, neu ddyddiau traddodiadol go iawn o gestyll tywod a chribinio’r traeth.
 

Paradwys Cerddwyr

Gyda’i thirwedd amrywiol, mae gan Gymru bopeth i’w gynnig i gerddwyr, o gopaon syfrdanol o hardd Bannau Brycheiniog ac Eryri i filltiroedd o lwybrau arfordirol De Cymru. Mae gyda ni lwybrau ar gyfer pob gallu, yn rhai rhwydd a hamddenol yn ogystal â rhai mwy heriol – checiwch ein arweinlyfrau am fapiau o’r daith a manylion llawn am y llwybrau, y gatiau, natur y tir a hygyrchedd ar gyfer coetsh fach, cadeiriau olwyn a chŵn.
 
Wrth gwrs, mae gan Gymru orffennol diwydiannol anrhydeddus hefyd a gallwch gael blas arno ar daith danddaearol ym Mwynglawdd Aur Dolaucothi yn Sir Gaerfyrddin, neu Weithfeydd Tun a Rhaeadr Aberdulais ger Glyn Nedd – profiad go wahanol! Os hoffech aros ychydig yn hirach a gwneud gwyliau go iawn ohoni, mae digon o lety, o fythynnod gwyliau i fyncws a gwersylloedd ledled Cymru.
 
Eleni  yn 2016 ry’n ni’n dathlu Blwyddyn Antur yng Nghymru – beth am fynd ar eich antur chithe yng Nghymru eleni?