Dyma’ch cyfle i gwrdd â’n chwe chennad natur yng Nghymru, sydd wedi’u dewis i rannu eu straeon ac ysbrydoli eraill i dreulio amser yn yr awyr agored.
Ar ddechrau 2018, gwnaethom ddechrau chwilio am genhadon natur drwy ofyn i’r rheini sy’n teimlo bod natur wedi chwarae rhan bwysig yn eu bywydau rannu eu llefydd arbennig yng Nghymru gyda ni.
Cawsom lawer o straeon gwych yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall natur ei gael ar ein bywydau. Gyda chymorth ein Cennad Awyr Agored a Lles, y seren rygbi Jamie Roberts, dewiswyd chwe chennad.