Cynhelir sesiynau caiacio rhagarweiniol o draeth Aberdaron, ac fe ddefnyddir caiacau sedd sengl a thandem rydych yn eistedd ar ei ben, mae’n hawdd eu padlo ac yn hynod sefydlog.
Bydd y sesiynau'n amrywio yn dibynnu ar amodau’r môr; pan fydd y môr yn dawel, cynigir taith olygfaol i ddysgu am yr arfordir diddorol, yr hanes lleol cyfoethog a’r bywyd gwyllt anhygoel gan gynnwys adar môr fel palod ac adar drycin Manaw, ynghyd â morloi a llamhidyddion.
Os bydd y môr yn arw a'r tywydd yn dal i fod yn ffafriol cynigir sesiynau syrffio yn y tonnau.
Yn ystod y sesiwn bydd hyfforddwr caiacio cymwys yn gofalu amdanoch, ac yn darparu’r holl offer rydych ei angen ac yn edrych ar eich ôl drwy gydol eich antur. Cofiwch ddod â gwisg nofio, hen esgidiau ymarfer a lliain gyda chi.
Lle a phryd?
Cynhelir y sesiynau ar ddydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sul dros y Sulgwyn a gwyliau’r haf ysgolion, dydd Sadwrn rhwng Sulgwyn a gwyliau'r haf a yn mis Medi.
Mae'r sesiynau dwy awr yn costio £30 y person (gyda gostyngiad o £5 ar gyfer aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
Oes angen archebu?
Oes, mae archebu lle yn hanfodol. Siaradwch efo staff ym Mhorth y Swnt neu ffoniwch y canolfan ar 01758 703810 er mwyn archebu lle.
Y man cyfarfod a man cychwyn y sesiynau yw Porth y Swnt.
Gweler y gofynion ar gyfer y gweithgaredd caiacio;
- Yr isafswm oedran yw 8 ac rydym yn awgrymu y dylai oedolyn ddod gyda phlant o dan 12 oed.
- Mae’n well i blant ifanc rannu un o'r caiacau tandem gydag un neu ddau oedolyn.
- Mae’r gallu i nofio yn ddefnyddiol ond nid yw’n hanfodol
Gweithgareddau eraill