Gweithgareddau a gemau Guto Gwningen i’w mwynhau gartref
7 Ionawr – pecyn gweithgaredd pump: Lleucu Llygoden a Mr Peredur Pysgotwr
Mae’r pumed pecyn gweithgaredd Guto Gwningen yn cynnwys syniadau gan Lleucu Llygoden a Mr Peredur Pysgotwr. Yn y pecyn gweithgaredd hwn mae yna:
- Dempled y gellir ei argraffu gan Lleucu Llygoden i chi wneud dis. Gallwch ddefnyddio’r dis i ddod o hyd i wahanol bethau blewog, meddal neu grensiog ym myd natur, a chasglu'r rhain i helpu Lleucu Llygoden i wneud cartref clyd.
- Pos sylwi ar y gwahaniaeth sy'n cynnwys Mr Peredur Pysgotwr - faint o wahaniaethau gallwch chi ddod o hyd iddynt?
Pecyn gweithgaredd un: Guto Gwningen a Mrs Tigi-Dwt
Mae'r pecyn gweithgaredd Guto Gwningen cyntaf hwn yn cynnwys syniadau gan Guto ei hun a Mrs Tigi Dwt. Yn y pecyn gweithgaredd hwn:
- Mae Guto wedi colli ei fotymau - a allwch chi ei helpu i ddod o hyd iddyn nhw a lliwio'r olygfa?
- Mae yna hefyd ganllaw ar adeiladu gwesty i ddraenogod fel y gall Mrs. Tigi Dwt gysgu mewn cornel glyd yn eich gardd yn ystod y gaeaf.
- I’r ditectifs natur, mae yna ffeithiau yma ac acw i chi ddysgu mwy am y bywyd gwyllt y gallwch ei weld yn ystod y gaeaf.
Pecyn gweithgaredd dau: Watcyn Wiwer a Mr. Puw
Mae’r ail becyn gweithgaredd Guto Gwningen yn cynnwys syniadau gan Watcyn Wiwer a Mr. Puw. Yn y pecyn hwn:
- Tynnu llun o gartref ar gyfer Watcyn Wiwer gan ddefnyddio templed coeden dderw - gallwch ddefnyddio cymaint o liwiau ag y dymunwch, a gallwch dynnu llun o ddrws Watcyn Wiwer.
- Canllaw ar sut i wneud robin goch o wrthrychau lliwgar ar gyfer addurniadau gaeaf Mr. Puw.
Pecyn gweithgaredd tri: Fflopsi, Mopsi, Nel Gynffon Wen a Dili Minllyn
Mae’r trydydd pecyn gweithgaredd Guto Gwningen yn cynnwys syniadau gan Fflopsi, Mopsi, Nel Gynffon Wen a Dili Minllyn. Yn y pecyn gweithgaredd hwn:
- Cyfarwyddiadau ar gyfer rysáit gaeaf gan Fflopsi, Mopsi a Nel Gynffon Wen. Gallwch goginio rysáit gaeafol blasus gyda'ch anwyliaid, a rhannu'r danteithion gyda'ch gilydd.
- Ysbrydoliaeth i chi greu cornel ddarllen glyd gyda Dili Minllyn, lle gallwch chi swatio i ddarllen eich hoff stori.
- Cadwch lygad allan am ein fideos newydd o straeon Guto Gwningen o Ben Bryn, cartref Beatrix Potter. Gallwch wrando ar straeon yn cael eu darllen gan storïwr lleol wrth i chi ymlacio yn eich cornel ddarllen.
Newydd - 17 Rhagfyr – pecyn gweithgaredd pedwar: Benja Bwni a Chwningen yr Eira
Mae’r pedwerydd pecyn gweithgaredd Guto Gwningen yn cynnwys syniadau gan Benja Bwni a Chwningen yr Eira. Yn y pecyn gweithgaredd hwn mae yna:
- Bos i helpu Benja Bwni i ddod o hyd i wahanol lysiau yng ngardd lysiau Mr Puw.
- Gweithgaredd artistig i addurno'ch Cwningen yr Eira eich hun gyda llawer o ddeunyddiau naturiol y gallwch ddod o hyd iddynt pan fyddwch chi allan yn crwydro.