Hafod
Perl hanesyddol Cymreig
Wedi ei greu gan ei berchennog enwocaf, Thomas Johnes, mae tir yr Hafod wedi ei gynllunio yn unol ag egwyddorion hardd poblogaidd y dydd. Mae llwybrau cerdded cylchol o amgylch yr ystâd dau gan hectar wedi eu cynllunio fel bod ymwelwyr yn gallu mwynhau tirwedd Cymru a'r dilyniant o olygfeydd sy'n newid yn gyson.
Roedd yr Hafod yn gyrchfan yr oedd yn rhaid ei weld gan dwristiaid cynnar yng Nghymru, yn cynnwys y rheiny oedd yn cwblhau'r Daith Fawreddog - taith addysgiadol draddodiadol ymysg dynion ifanc aristocrataidd yn y 18fed ganrif. Daeth rhai ag arlunydd hefo nhw i gofnodi'r golygfeydd, tra bod ymwelwyr eraill yn dal y profiad yn eu brasluniau a'u dyddiaduron eu hunain.
Mae'r Hafod yn parhau i ddenu'r bobl greadigol a'r rhai sydd eisiau profi ei dreftadaeth a'i harddwch naturiol heddiw. Wedi ei fritho â henebion ac adeiladau rhestredig, mae'r Hafod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae'n gyfoethog o fioamrywiaeth, ac yn gartref i amrywiaeth o blanhigion a bywyd gwyllt megis dyfrgwn, belaod a bwncathod.
Cyfleusterau a mynediad
- Toiledau dros dro i’w cael yn y prif faes parcio (ger yr eglwys) – gan gynnwys toiledau dros dro i’r anabl.
- Mae camfeydd, tir serth a grisiau ar bob un o’r llwybrau cerdded ag arwyddion.
- Mae lleoedd parcio i’r anabl ar gael yn Swyddfeydd yr Ystâd ac yng Ngardd Flodau Mrs Johnes, dilynwch yr arwyddion o fynedfa’r goedwig ar yr B4574. Gallwch gael mynediad at yr ardd flodau ac ardal bicnic ger yr afon o Ardd Flodau Mrs Johnes.
- Mae ardaloedd picnic ar gael yn y prif faes parcio, ar safle ein plasty a ger yr afon ar Rodfa'r Foneddiges.
- Rhaid cadw cŵn ar denynnau o amgylch da byw ac yn y gerddi, ond gallwch eu tynnu oddi ar denynnau ond eu cadw dan reolaeth yn y coetiroedd.