Stori anhygoel y Gymraes a roddodd y darn o dir cyntaf i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Dinas Oleu, Abermaw, Gwynedd

Ar 21 Mehefin 1895, derbyniodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol rodd garedig gan y ddyngarwraig Fanny Talbot, cam a fyddai’n arwain yn y pen draw at ein gwneud yn elusen gadwraethol fwyaf Ewrop. Dros gan mlynedd yn ddiweddarach, rydym ni’n edrych ar ôl 247,000 hectar o dir, 775 milltir o arfordir a 500 lle arbennig, ond dechreuodd y cyfan yma, gydag un rhodd arbennig. Rydym yn falch iawn mai yma yng Nghymru y dechreuodd y cyfan.

Dywedodd Richard Neale, Swyddog Ymgysylltu Arfordirol Cymru yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol “Chwaraeodd Fanny Talbot ran bwysig iawn yn stori’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n rhyfeddol i feddwl mai’r rhodd hon ar arfordir Cymru oedd yr ysbrydoliaeth i ddatblygu’r mudiad. Heb os, rydyn ni wedi dod yn bell iawn ers dyddiau Fanny Talbot, dw i’n meddwl y byddai hi wrth ei bodd.” 

Dinas Oleu

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan griw bach o bobl a ddaeth at ei gilydd, wedi’u huno gan eu pryderon am effaith y chwyldro diwydiannol ar yr amgylchedd. Roedd yr elusen yn apelio at y ddyngarwraig Fanny Talbot o Abermaw a rhoddodd ddarn o dir yng Ngwynedd i’r achos. Dinas Oleu yw enw’r safle prydferth hwn ar ochr y bryn uwchben tref glan-môr Abermaw, lle ceir golygfeydd gwych o Gader Idris. 

Stori anhygoel Fanny Talbot, y Gymraes a roddodd y darn o dir cyntaf i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
	Y ddyngarwraig Fanny Talbot, y Gymraes a roddodd y darn o dir cyntaf i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
 

Mae’r criw bach o ddyngarwyr a sefydlodd y mudiad wedi tyfu ac erbyn heddiw mae gan yr elusen bron i 5 miliwn o aelodau, 10,000 aelod staff a thros 60,000 o wirfoddolwyr. Mae dymuniad Fanny Talbot i helpu’r mudiad i amddiffyn a gwarchod, yn parhau hyd heddiw. Ac mae’r un bygythiad a arweiniodd at sefydlu’r elusen ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd wedi arwain at y bygythiad mwyaf sydd yn ein hwynebu heddiw – newid yn yr hinsawdd. 

Gwneud gwahaniaeth

O’r dyddiau cynnar hyn, rydym wedi tyfu yn elusen fwyaf Ewrop ac mae pob rhodd o dir, rhodd ariannol neu gymorth gan wirfoddolwr yn ein hysbrydoli i gamu ymlaen. Mae sawl her wahanol yn ein hwynebu heddiw, ond mae stori Fanny Talbot yn dangos sut mae cydweithio a chyfrannu, does dim gwahaniaeth faint, yn gallu gwneud gwahaniaeth. 

Mae’n anodd dychmygu sut fath o olwg fyddai ar ein lleoedd arbennig heddiw petai’r arloeswyr cynnar heb ddod at ei gilydd a gweithredu, neu’r holl gyfranwyr a gwirfoddolwyr ers hynny. Pwy a ŵyr? 

Bob tro y byddwch yn cyfrannu, yn ymweld â’n safleoedd, yn gwirfoddoli neu’n ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda’n gilydd gallwn warchod a gofalu am ein lleoedd arbennig, am byth, i bawb.