Skip to content

Pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru

Electric vehicle charging point in the car park at Wimpole Estate, Cambridgeshire
Gallwch wefru eich car yn nifer o leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol | © National Trust Images/Mike Selby

Plygiwch eich cerbyd trydan i mewn tra’ch bod chi’n crwydro cestyll campus, traethau trawiadol a gerddi godidog yng Nghymru. Mae 36 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru, i gyd wedi’u lleoli’n berffaith ar gyfer eich diwrnod allan.

Gofynnwch cyn ymweld

Gofynnwch i’r eiddo unigol cyn eich ymweliad i gadarnhau bod pwyntiau gwefru ar gael.

Mae’n werth nodi hefyd fod ein holl bwyntiau gwefru cerbydau trydan yn rhai ‘gwefru araf’ ac y gallant fod yn llawn pan gyrhaeddwch, felly peidiwch â gadael i’r batri bron â gwagio a neilltuwch ddigon o amser.

Pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Ngogledd Cymru

Castell Penrhyn, Bangor
Mae pwynt gwefru cerbydau trydan Castell Penrhyn yn y prif faes parcio, o dan adeilad y dderbynfa.Ymwelwch â Chastell Penrhyn
Gardd Bodnant, Conwy
Mae pwynt gwefru cerbydau trydan yn y maes parcio yng Ngardd Bodnant, ar y dde, gyferbyn â’r caffi.Ymwelwch â Gardd Bodnant
Erddig, Wrecsam
Yn Erddig, mae pwynt gwefru cerbydau trydan yn y maes parcio.Ymwelwch ag Erddig
Castell y Waun, Wrecsam
Fe welwch bwynt gwefru cerbydau trydan Castell y Waun yn agos i’r prif faes parcio, sydd wedi’i leoli y tu ôl i’r siop a’r dderbynfa.Ymwelwch â Chastell y Waun
Pen Llŷn
Mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan ym meysydd parcio Porthdinllaen, Llanbedrog a Phorthor, yn ogystal â Phlas yn Rhiw a Phorth y Swnt. Mae un arall yn Fferm Cwrt ger Aberdaron, LL53 8DA.Ymwelwch â thraeth Llanbedrog
Eryri
Mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghraflwyn, fferm Hafod y Llan (ar gyfer defnyddwyr y maes gwersylla) yn Nant Gwynant ac ym mwthyn gwyliau Dyffryn Mymbyr (i westeion).Ymwelwch â Chraflwyn a Beddgelert
Land Rover trydan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi’i gysylltu â chyflenwad pŵer o hen adeilad carreg yn Eryri, Cymru.
Cerbyd trydan yn gwefru yn Eryri | © National Trust Images/ John Millar

Pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghanolbarth Cymru

Castell Powis, Y Trallwng
Mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y maes parcio yng Nghastell Powis. Cadwch olwg am y bws gwennol trydan i ymwelwyr hefyd. Ymwelwch â Chastell Powis <index>Ymwelwch â Chastell Powis
Llanerchaeron, Ceredigion
Mae pwynt gwefru cerbydau trydan Llanerchaeron yn y maes parcio ymwelwyr o flaen caffi’r dderbynfa.Ymwelwch â Llanerchaeron

Pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn Ne Cymru

Tŷ Tredegar, Casnewydd
Fe welwch bwynt gwefru cerbydau trydan Tŷ Tredegar yn y prif faes parcio ymwelwyr ger y mannau parcio coetsis.Ymwelwch â Thŷ Tredegar
Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg
Yng Ngerddi Dyffryn, mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y prif faes parcio ger yr ardal chwarae.Ymwelwch â Gerddi Dyffryn
Dinefwr, Sir Gâr
Gallwch ddod o hyd i’r pwynt gwefru cerbydau trydan yn Ffermdy Fferm y Plas Dinefwr, ar adeilad ‘Y Granar’. Nodwch fod hwn yn swyddfa staff, sydd ar wahân i’r ardal barcio i ymwelwyr – cod post SA19 6RU.Ymwelwch â Dinefwr
Sir Benfro
Mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan ym maes parcio Cei Stagbwll, Canolfan Stagbwll a maes parcio Martin's Haven.Ymwelwch â Stagbwll
Penrhyn Gŵyr
Fe welwch bwyntiau gwefru cerbydau trydan ym maes parcio Rhosili a Ffermdy De Pilton Green.Ymwelwch â Rhosili
Bannau Brycheiniog
Mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan yng nghanolfan weinyddol a gweithdy Dan y Gyrn, Fferm Blaenglyn, Libanus, Aberhonddu LD3 8NF.Ymwelwch â Bannau Brycheiniog
Visitors walking among daffodils at Dora's Field, Ambleside, Cumbria

Ble fydd eich ymweliad nesaf?

Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Blodau coed ceirios ar ddiwedd y daith gerdded coed yw yn yr ardd yn Erddig

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Golygfa o wedd ogledd-ddwyreiniol Tŷ Tredegar ar ddiwrnod heulog

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Walkers admire the view across Llyn Ogwen to the Cwm Idwal Valley on a sunny day, with a body of water visible in the valley and mountains in the distance

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Tu allan i Gastell Penrhyn ar ddiwrnod braf

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Ymwelwyr yn yr ardd yn y gwanwyn yn Erddig

Diwrnodau allan i'r teulu yng Nghymru 

Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Rhywun yn sleisio mewn i gacen Victoria sponge

Llefydd i fwyta a siopa yng Nghymru 

Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.