Y frân goesgoch: acrobat arfordir Pen Llŷn

Brân goesgoch yn bwydo

Ewch i ben pella’r penrhyn i weld campau rhyfeddol y frân goesgoch yn yr awyr uwchben y clogwyni. Y frân brin hon yw arwyddlun Pen Llŷn. Mae’n un o'r rhesymau pam fod y llecyn hwn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Pen-y-Cil

Mae’n werth ymweld â Phen-y-Cil, ar ochr ddeheuol y penrhyn, gan mai hwn yn sicr yw un o'r lleoedd mwyaf dramatig i weld brain coesgoch. Wrth gerdded y llwybr ym Mhen-y-Cil cewch  fwynhau golgyfeydd godidog ar draws Bae Aberdaron a thu hwnt.

Mae darn byr o lwybr yn gwyro oddi wrth Lwybr Arfordir Llŷn ac yn arwain at gopa Pen-y-Cil. Wrth i chi gerdded o amgylch y penrhyn tuag at y trwyn, fe gewch eich gwobrwyo â rhywbeth hyfryd ac annisgwyl – golygfa hudol o Ynys Enlli.

Coesau coch

Y frân goesgoch yw'r aelod prinnaf o deulu'r frân. Mae ganddi big crwm coch a choesau coch ac mae hi i’w gweld, fel rheol, ar hyd yr arfordir.

Poblogaeth fechan o’r adar hyn sydd yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae tri chwarter o’r boblogaeth honno’n byw yng Nghymru.

Cartrefi arfordirol

Mae’r frân goesgoch yn gwneud ei chartref mewn clogwyni arfordirol uchel, ac o fewn chwareli a thirweddau gwyllt. Mae ganddi alwad 'tsiâw' nodweddiadol, sy’n uwch ac yn fwy clir na galwad tebyg jac-y-do.

Nid yw’r aderyn hwn yn mudo ac mae parau yn tueddu i aros yn ffyddlon i'w gilydd a'r ardal lle maent yn nythu. Y prif fygythiad i'r frân goesgoch yw’r gostyngiad mewn cynefinoedd oherwydd newidiadau mewn arferion amaethyddol.

Meistri yn yr awyr

Os byddwch chi’n ddigon ffodus i gael cip ar y frân goesgoch, mae’n debygol y cewch chi gyfle hefyd i weld ei meistrolaeth yn yr awyr; mae ei hadenydd llydan sydd wedi’u rhannu’n fysedd yn ei galluogi i ddeifio a phlymio gydag ystwythder hyderus.