Ynni gwyrdd yng Nghymru

The hydro turbine at Hafod y Llan farm in Snowdonia

Mae tirwedd Cymru mor gyfoethog â’i hanes a’i diwylliant. Gallai’r amgylchedd gwerthfawr hwn fod yn allweddol i warchodaeth ein hetifeddiaeth naturiol a’n hadeiladau.

Ers canrifoedd, bu mynyddoedd, coedwigoedd a dyfroedd Cymru yn rhoi maeth i’w phobl ac yn ysbrydoli cenedlaethau o ymwelwyr. Nawr ry’n ni yn rhyddhau posibiliadau ynni glân yn y dirwedd ysgubol hon; yn ffrwyno adnoddau’r elfennau ar dir, môr ac yn yr awyr i bweru ein bywydau cyfoes – a gwarchod yr union amgylchedd arbennig lle mae’n nhw’n tarddu.

Does dim yn newydd yn hyn. Mae’r arfer o losgi coed i roi gwres ac adeiladu olwynion i ffrwyno grym dŵr mor hen â’r bryniau yma yng Nghymru. Yn yr 21ain ganrif ry’n ni’n rhoi gwedd newydd ar yr hen dechnolegau hyn, yn ogystal â chyflwyno rhai newydd megis pŵer solar.

Mae Keith Jones, ymgynghorydd amgylcheddol i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, yn dweud: ‘Mae gwneud defnydd o ynni adnewyddadwy yn gwneud synnwyr busnes, cadwraethol ac amgylcheddol ac mae ein tîm gwobrwyol yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn arwain y ffordd ar gyfer gweddill ein mudiad ac eraill.’
 

Olwyn ddŵr Aberdulais yn cael ei hadeiladu yn y gwaith dur lleol
Olwyn ddŵr Aberdulais yn cael ei hadeiladu yn y gwaith dur lleol

Yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ry’n ni’n gwarchod lleoedd arbennig i bawb, am byth, ac ry’n ni wedi ymrwymo i wneud hynny mewn ffordd sy’n garedig i’n daear ni – i’n pobl, ein tirwedd a’n bywyd gwyllt – nawr ac yn y dyfodol.

Conglfaen y bwriad hwn yw gostyngiad dramatig yn ein defnydd o danwydd ffosil, sef hyd yr hanner erbyn 2020. Bydd hyn yn torri gollyngiadau carbon, gwneud ein safleoedd, boed fwthyn neu gastell, yn fwy cynaliadwy, ac yn arbed arian gaiff ei fuddsoddi nôl yn ein gwaith cadwraethol. Yn genedlaethol, ein nod yw arbed £4 miliwn ar filiau ynni bob blwyddyn a bydd pob ceiniog yn mynd tuag at warchod etifeddiaeth ein gwlad – boed hynny yn adfer darlun neu gynnal a chadw gweirglodd.

Yng Nghymru, ry’n ni’n chwarae’n rhan yn y fenter hon trwy fynd am brosiectau sy’n cynhyrchu ynni adnewyddadwy; gweithio ochr yn ochr â phobl lleol, asiantaethau’r llywodraeth a’r gymuned wyddonol; ac mewn partneriaeth â darparwr ynni adnewyddadwy yr Ymddiriedolaeth sef Good Energy. Ry’n ni’n datblygu a chefnogi prosiectau lle bo hynny’n addas ac yn y lleoliad cywir:

  • Ffotofolteigiau solar (PV): Defnyddio pelydrau’r haul i gynhyrchu trydan yn y man a’r lle y maen nhw wedi eu gosod, neu er mwyn bwydo mewn i’r grid cenedlaethol – dyma sy’n cyflenwi anghenion trydan yr ystafell de yng Ngardd Bodnant ger Conwy a’r fferm weithiol yn Llanerchaeron yng Ngheredigion.
  • Thermal solar: Twymo hylif oer mewn dolen peipen gaeëdig, sy’n cylchynu o fewn tanc cyflenwi dŵr poeth – dyma sy’n helpu twymo’r dŵr yng nghastell canol-oesol y Waun yn Wrecsam.
  • Pwmpiau gwres: Cynaeafu gwres amgylchynol o’r ddaear, yr awyr a’r dyfroedd, sy’n cael ei symud wedyn drwy gyfnewidfa wres i system wresogi dan y llawr neu wresogyddion – yn darparu gwres i’r tai gwydr yng Nghastell Powis, Y Trallwng a’r plasty ym Mhlas Newydd, Ynys Môn.
  • Trydan dŵr: Yr hen ddull o ddefnyddio grym dŵr sy’n llifo’n gyflym i gynhyrchu trydan – fel yng Ngwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais ac yn Hafod y Llan, Eryri.
  • Biomas: Dull hynafol iawn o losgi gwyrddni ar gyfer tanwydd, a thechnoleg fodern bellach yn cynyddu ei effeithlonrwydd – mae bwyleri biomas yn cynhesu ystafelloedd Castell Penrhyn ger Bangor a’r tŷ gwydr ecsotig yng Ngerddi Dyffryn ger Caerdydd.

Mae ynni adnewyddadwy yng Nghymru wedi bod yn destun trafod ers amser. Dyma’r tro cyntaf i neb fynd ati i gyd-lynu ei ddatblygiad ar raddfa genedlaethol, gyda phwyslais ar ymarfer dda a helpu cadwraeth.

Am wybodaeth bellach am ymroddiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ynni adnewyddadwy, a beth gallwch chi ei wneud bob dydd, yn y cartref a’r gwaith, ewch i https://www.nationaltrust.org.uk/features/ten-ways-to-be-greener
 

" Gall amgylchedd Cymru, sy’n gwneud ein lleoedd arbennig mor unigryw, fod ychydig yn heriol weithiau, ond efallai mai dyma un o’n hasedau gorau ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy heb gyfaddawdu’r lleoedd sydd mor agos at ein calonnau."
- Keith Jones, Ymgynghorydd Ymarfer Amgylcheddol ar gyfer Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru