Arddangosfeydd tanbaid yr hydref yng Nghymru

Dros Gymru gyfan mae ein cefn gwlad a’n gerddi yn cael eu gweddnewid gan liwiau llachar godidog yr hydref. Dyma’n dewis ni o rai o’r mannau gorau i fynd i weld gŵyl gynhaeaf byd natur yn mynd yn ei blaen.

Reflections of autumn trees on the lake at the Far End, Bodnant Garden

Gardd Bodnant, Conwy 

Mae’r ardd hanesyddol hon o 80 o erwau yn gartref i gannoedd o goed brodorol ac estron, sydd â’u dail yn dân o liwiau a’u canghennau’n llwythog ag aeron a ffrwyth yn yr hydref. Dilynwch eich llwybr eich hun drwy’r coed neu ymunwch â thaith dywys er mwyn darganfod nifer o goed sy’n oreuon o’u math yn y DU, cewri o goed Conwydd o America a choed Acer llydanddail a choed ceirios o Asia. Mwynhewch y terasau rhosod, y gwelyau a’r borderi blodau sydd hefyd yn fôr o liw.

Corn Du and Pen-y-Fan, Brecon Beacons, Powys

Bannau Brycheiniog 

Pa le gwell i fwynhau’r dirwedd yn yr hydref nag o ben bryniau gwyllt ac agored Bannau Brycheiniog? Mae llawer iawn o lwybrau cerdded ar gael yma sydd â golygfeydd bythgofiadwy. Os ydych chi’n barod am dipyn o daith, fe gewch chi’r golygfeydd mwyaf syfrdanol o hardd o ddringo Fan y Big. Neu beth am fynd i ddarganfod coedwigoedd hynafol Cwm Tarell Uchaf, lle mae llond y lle o fywyd gwyllt yn aros amdanoch.

Golygfa dros erddi Castell y Waun o'r to

Castell y Waun, Wrecsam 

Yn sefyll ar diroedd y ffin â Chymru, mae gan y castell canoloesol hwn olygfeydd eang dros diroedd gwastad Sir Gaer a Sir Amwythig. Ewch i grwydro drwy’r lawntiau gyda’u perthi trwsiadus, i lawr y Border Hir sy’n llawn llwyni o liwiau cynnes, nes cyrraedd y ffosglawdd lle gallwch sefyll a syllu ar olygfeydd o’r wlad yn yr hydref. Mae yma hefyd lwybrau i fynd â chi i archwilio’r parcdir coediog.

A picture of a girl clasping autumn leaves

Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro  

Mae tiroedd coediog Colby yn hafan i fyd natur ac yn lle perffaith i fynd i grwydro a mwynhau golygfeydd a synau’r hydref. Chwiliwch am fadarch ar lawr y goedwig, gwiwerod yn hela cnau ac adar yn paratoi ar gyfer y gaeaf. Yn ychwanegol at y sioe o liwiau dail, mae hefyd golyga o’r môr yma. O’r tŷ haf gallwch weld Bae Caerfyrddin a Phen Pyrod ar ddiwrnod clir.

Teithiau cerdded hydrefol drwy Erddi Dyffryn

Gerddi Dyffryn, Caerdydd 

Cynlluniwyd y gerddi Edwardaidd yn Nyffryn gan Thomas Mawson ar gyfer y masnachwr glo cyfoethog, John Cory. Mae’r gyfres o ystafelloedd clyd sydd yn yr ardd yn orlawn o welyau a borderi o liwiau’r hydref a’r rhain yn sefyll mewn tiroedd pleser sydd â lawntiau llydan gyda ffynhonnau dwr a chefluniau yn torri ar eu traws hwnt ag yma. Un o’r nodweddion arbennig i’w weld yn yr hydref yw’r ardd goed sy’n gartref i nifer goed sy’n oreuon o’u math.

Oxbow lakes and River Tywi, Dinefwr Park, Carmarthenshire

Parc Dinefwr, Sir Gaerfyrddin 

Mae’r hydref yn ffrwydro yn danchwa o liw yn Ninefwr. Dewiswch un o’r nifer o lwybrau arbennig i’ch arwain drwy dirwedd a gynlluniwyd gan Capability Brown, i archwilio’r parc ceirw canoloesol. Fe welwch chi goed hynafol â choron drawiadol o ddail aur, coch ac oren arnynt ac wrth gwrs heb anghofio’r Danasod a’r Gwartheg Gwynion sy’n byw yma.

Dwy ddynes yn cerdded trwy’r plethwaith o goed pisgwydd euraid hydrefol yn Erddig

Erddig, Wrecsam  

Yr hydref yw’r amser gorau i edmygu’r coed ffrwythau espalier, sydd wedi'u dysgu yn gelfydd i dyfu i orchuddio gerddi muriog y plasty yn Erddig - a heb anghofio hefyd y lôn drawiadol o goed pisgwydd wedi’u plethu, wrth i’w dail droi’n aur eu lliw. Mae’r gerddi o amgylch y plasty yn gynefin i lawer o hen goed urddasol, nifer ohonynt yn frodorol i’r wlad hon, ac eraill o diroedd estron a gyflwynwyd yma yn y 1800au pan gafodd y parc ei dirlunio.

Mae ffrwythau a llysiau o’r ardd furiog yn cael eu gwerthu yn siop Llanerchaeron

Llanerchaeron, Ceredigion  

Oes unman gwell i ddod i ymgolli ym mynd natur nag i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig? Mae ystâd Llanerchaeron wedi ei lleoli yng nghwm coediog Dyffryn Aeron, ac yn cynnwys Plasty Sioraidd, gerddi a fferm sy’n dal i gael eu gweithio heddiw gan gynhyrchu ffrwythau a llysiau ers dros 200 mlynedd. Gallwch weld llawnder y cynhaeaf yn y gerddi a chrwydro’r coed wrth iddyn nhw droi eu lliwiau yn felyn ac efydd.

Lliwiau’r hydref ym Mhlas Newydd, Ynys Môn

Plas Newydd, Ynys Môn 

Mae’r gerddi Eidalaidd yn rhoi ffrwydrad o liwiau tanllyd hyd at ganol yr hydref gyda phlanhigion sy’n blodeuo’n hwyr fel y dahlia, y canna a’r rudbekia. Yn y 169 erw o barcdir coediog gallwch ddod o hyn i ardd goed Awstralasiaidd, lle mae dail tywyll y coed ffawydd Chileaidd yn wrthgyferbyniad llwyr i’r coed ewcalyptws ysgafn, persawrus. Cadwch lygad yn agored am wiwerod coch Plas Newydd hefyd, fydd yn brysur yn casglu cnau ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

Lliwiau trawiadol yr hydref yng Nghastell Powis

Castell a Gardd Powis, Y Trallwng 

Mae Powis yn adnabyddus am ei gerddi ysblennydd sy’n dyddio nôl i’r 1600au. Mae’r gwelyau blodau a’r borderi o lwynni, sydd wedi eu cerfio i ochr y bryn tywodfaen, yn rhoi arddangosfa drawiadol o liw i ni yn yr hydref, a hyn oll yn erbyn cefndir dramatig y perthi ywen tonnog, anferthol. O’r uchelderau hyn gallwch weld olygfa fflamgoch yr hydref am filltiroedd o’ch cwmpas.

Father and daughter play in the leaves

Tŷ Tredegar, Casnewydd  

Os ydych chi’n chwilio am le i ddianc o fywyd y ddinas am ychydig, i fynd am dramp drwy’r dail, mae gan barcdir Tŷ Tredegar dros 90 erw i’w gynnig. Dyma ddarn o hen ystâd sydd wedi llwyddo i oroesi, ac sydd heddiw yn sefyll yn werddon yng nghanol tirwedd ôl-ddiwydiannol, ac yn hafan i bobl leol ac i ymwelwyr. Dewch i fwynhau sioe wych o liwiau dail yr hydref yn y coedwigoedd a’r adar wrth ochr y llyn.

Visitors at Ty Mawr Wybrnant, Conwy, Wales.

Tŷ Mawr Wybrnant, Dyffryn Conwy 

Gadewch i ogoniant byd natur agor o’ch cwmpas wrth i chi grwydro drwy’r gilfach hon o Ddyffryn Conwy. Mae’r llwybr arbennig yn eich arwain drwy hanes cymdeithasol a bywyd gwyllt y mynydd-dir yn y dyffryn Cymreig hwn, gan fynd a chi drwy gefn gwlad yn yr hydref ac heibio i hen adeiladau hanesyddol. Yn ganolbwynt i’r cyfan mae Tŷ Mawr Wybrnant, sef man geni’r Esgob William Morgan, a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg.