Bythynnod gwyliau yng Nghymru

Yn rhai clyd neu'n llawn cymeriad, ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad, rydym wedi dewis rhai o'n tai gwyliau gorau yng Nghymru am wyliau haf.

Bwthyn Dyffryn Mymbyr yn Eryri

Arhoswch â ni yn Eryri 

Dewiswch fwthyn delfrydol i fod yn ganolfan ar gyfer crwydro mynyddoedd, llynnoedd a dyffrynnoedd coediog Eryri. O fythynnod bychan ar gyfer dau berson i ffermdai yng nghanol tir sy’n cael ei ffermio, gallwn gynnig lleoedd arbennig iawn i chi aros ynddyn nhw.

Bwthyn Moryn yn Porthdinllaen, Penrhyn Llŷn

Dewch i aros gyda ni ar Ben Llŷn 

Gyda’i draethau tywod braf, moroedd disglair ac awyr las, mae Penrhyn Llŷn yn ardal hyfryd. Dewch i aros yn un o’n bythynnod gwyliau a chrwydro’r ardal arbennig hon wrth eich pwysau.

Tu fas i fwthyn Treleddyd Fawr

Lleoedd i aros yn Sir Benfro 

Os ydych chi’n chwilio am hoe fach yn Sir Benfro, beth am drio un o fythynnod gwyliau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dewch ‘mlaen – mae’r croeso’n gynnes

Golygfa o Fwthyn Gwyliau’r Hen Reithordy yn Rhosili

Beth am wyliau ar benrhyn Gŵyr? 

O fythynnod glan y môr i gaban mewn coedwig, mae gyda ni bedwar bwthyn gwyliau yng Ngŵyr, sydd â lle i rhwng 5 a 7 o bobl i gysgu ynddynt, ac un caban sy’n cysgu 10 person.

Fideo

Wedi’ch temtio?

Os nad yw’r holl fythynnod hardd yma wedi tanio’ch diddordeb, cymrwch olwg ar un o’n bythynnod gwyliau ar Ben Llŷn, encil perffaith gyda golygfeydd bendigedig.