
Mae traeth Llanbedrog wedi bod yn lleoliad poblogaidd gydag ymwelwyr yn heidio yma er 1890, pan adeiladwyd tramffordd yn cysylltu'r pentref â Phwllheli. Mae'r dramffordd eisoes wedi mynd, ond mae'r traddodiad o gytiau traeth, sy'n gysylltiedig â'r twristiaid Fictoraidd cynnar hynny yn parhau.
Fel arfer mae 70 o gytiau traeth lliwgar ar hyd traeth Llanbedrog yn ystod yr haf.
Sylwch fod y cytiau traeth yn llawn ar gyfer tymor 2022.
Sut mae archebu cwt traeth ar gyfer y flwyddyn nesaf?
Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu ein proses ymgeisio ar gyfer 2023. Byddwyn yn diweddaru'r dudalen hon gyda rhagor o wybodaeth erbyn 5 Medi 2022.
Pryd fydd y cytiau traeth yn barod?
Mae'r cytiau traeth ar gael i'w defnyddio rhwng 9 Ebrill - 2 Medi ar gyfer tymor 2022.
Pam nad yw'r cytiau traeth ar gael am fwy neu trwy'r flwyddyn?
Rhaid i ni fod yn ofalus i osgoi posib difrod gan unrhyw stormydd tymhorol cynnar neu hwyr a llanw uchel. Felly, mae dyddiadau'r tymor yn amrywio ychydig bob blwyddyn, yn dibynnu ar ragolwg y tywydd hir a rhagolwg y llanw. Mae'r cytiau'n cael eu tynnu a'u storio yn y maes parcio bob gaeaf, er mwyn eu cadw'n ddiogel.
Alla i archebu cwt traeth am wythnos?
Dim ond am y tymor llawn yr ydym yn llogi cytiau'r traeth ac nid ydym yn cynnig archebion dyddiol, wythnosol na misol.
Faint mae'n ei gostio i archebu cwt traeth ar gyfer y tymor?
Mae'n costio £450 i logi cwt traeth ar gyfer tymor 2022. Oherwydd y costau sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw, symud y cytiau traeth a darparu trwyddedau, ni ellir ad-dalu'r ffi.