Prosiect ‘ Save our Magnificent Meadows’

Dol wair ar barcdir Llanerchaeron, Ceredigion

Er bod gweirgloddiau a glaswelltiroedd sy’n llawn bywyd gwyllt ar drai ar hyd a lled y wlad, yng Ngheredigion mae nhw’n fyw o hyd, diolch i’r prosiect ‘Save our Magnificent Meadows.’

Prosiect partneriaeth cadwraeth natur oedd ‘Save our Magnificent Meadows’, a oedd yn cynnwys 11 mudiad, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o dan arweiniad Plantlife. Fe ddechreuodd yn 2014 fel prosiect tair mlynedd dan nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Amcan y prosiect oedd gwella dyfodol 6000 hectar o weirgloddiau a glaswelltiroedd mewn naw tirwedd strategol ar draws y DU. Nid canolbwyntio’n unig ar beth oedd yn gorwedd y tu ôl i gloddiau a gatiau caeau oedd y nod, ond rhoi cyfle hefyd i bobl ymweld â’r gwerddonau gwerthfawr yma o fywyd gwyllt; codi ymwybyddiaeth o sefyllfa druenus cynefinoedd gweirglodd a glaswelltir; a rhannu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol gyda chymunedau i’w galluogi i atal y dirywiad ofnadwy hwn.

Yng Ngheredigion, fe weithion ni ar draws naw safle, o ddolydd parcdir eiconig Llanerchaeron i laswelltir llaith a chorsiog Rhos Cwmsaeson a’r llechweddau arfordirol ym Mwnt ac Ynys Lochtyn a naddwyd gan y gwynt. 

Mae’r prosiect yn asio’n berffaith â’n cynlluniau uchelgeisiol fel mudiad i wrthdroi’r dirywiad mewn bywyd gwyllt ar y tir sydd dan ein gofal. Ry’n ni’n falch i allu parhau â gwaddol y prosiect dros y ddegawd nesaf, gan barhau i groesawu’r bywyd gwyllt a oedd unwaith yn gyffredin yn y caeau hyn.

Fideo

Prosiect ‘Save our Magnificent Meadows’ yng Ngheredigion

Diddordeb mewn gwybod mwy? Edrychwch ar ein safleoedd a dysgwch am ein hamcanion pan ddechreuodd y prosiect nôl yn 2014, wrth fwynhau cyflwyniad byr i’r gwaith o fonitro glaswelltir gan Helen, ein Ymgynghorydd Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt (clip fideo Saesneg yn unig)

Pam fod gweirgloddiau mor bwysig?

Mae gweirgloddiau a glaswelltiroedd sy’n llawn bywyd gwyllt yn rhan gynhenid o dreftadaeth naturiol a diwylliannol y DU. Mae eu cyfraniad i gymeriad y dirwedd yn gyfoethog, ynghyd â’u lle ym myd amaethu, mewn llên gwerin a hanes. Maen nhw yn gymaint rhan o’n treftadaeth â’n llenyddiaeth a’n celfyddyd mwyaf gwerthfawr.

O fewn y DU, mae glaswelltiroedd sy’n parhau yn gyfoethog eu hamrywiaeth wedi dirywio’n sylweddol. Erbyn heddiw, dim ond 2% sydd ar ôl o weirgloddiau y 1930au, a diflannodd tua 7.5 miliwn erw o weirgloddiau a’r glaswelltiroedd lliwgar yn llawn blodau gwyllt. Yn eu lle, daeth y caeau silwair sy’n cael eu ffafrio gan ddulliau ffermio cyfoes, lle nad oes ond dau neu dri rhywogaeth o blanhigyn yn aml, a phrin un planhigyn blodeuog. O’r planhigion sy’n llwyddo i oroesi, mae tua 75% yn tyfu’n wasgaredig ac mewn perygl o gael eu dinistrio.

Y prosiect yng Ngheredigion

Ar y safleoedd a oedd yn rhan o’r prosiect yng Ngheredigion, fe edrychon ni yn fanwl ar y ffordd roedden ni’n pori’r tir; mae pori’n hollbwysig i gadw’r cynefinoedd hyn mewn cyflwr da.

Yr enw ar hyn yw pori cadwraethol – pori’r cynefinoedd mewn ffordd arbennig er mwyn ceisio creu yr amodau gorau posibl ar gyfer bywyd gwyllt ar y glaswelltir. Yn aml, fe fydd y planhigion mwyaf diddorol a thyner yn colli’r frwydr yn erbyn rhywogaethau cryfach, fel rhygwellt neu faswellt sypwraidd, sef y rhai sy’n llewyrchu gan amlaf mewn caeau erbyn hyn. Mae defnyddio pori cadwraethol fel arf rheolaeth yn rhwystro’r porfeydd cryf rhag tra-arglwyddiaethu ac yn caniatáu i’r blodau bychain flodeuo a bwrw eu had.

Yn Llanerchaeron, ein porwyr cadwraethol yw ein Gwartheg Duon Cymreig, ac ar ein safleoedd arfordirol ry’n ni’n defnyddio gre o ferlod mynydd Cymreig.
 

Mae ein porwyr cadwraethol yn cadw llygad agos ar ein monitro
Monitro glaswelltir yn Rhos Cwmsaeson, Ceredigion

Agwedd ymarferol y prosiect

Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu pori’r holl safleoedd, ac yn arbennig y llechweddau arfordirol sy’n anodd eu cyrraedd, fe osodon ni ffensys, gatiau a chafnau dŵr yfed.

Agwedd arall o’n gwaith oedd tocio’r eithin a’r rhedyn. Er bod y creaduriaid yn gwneud gwaith da yn cadw’r borfa o dan reolaeth, ar rai o’r safleoedd roedd angen i ni glirio ardaloedd a llwybrau i’w helpu i grwydro yn ddyfnach i mewn i’r eithin a’r ddraenen ddu, sef y prysgwydd. Yn ystod cyfnod y prosiect, fe gliriodd ein tîm, gwirfoddolwyr a chontractwyr tua 36 hectar o brysgwydd.

Beth gyflawnodd y prosiect?

Yn 2013, roedd Gweirglodd yr Afon yn Llanerchaeron yn llawn rhygwellt, heb fawr amrywiaeth na lliw o fewn y cae, sef enghraifft dda o gae cyfoes a oedd yn gynhyrchiol iawn ond o ychydig werth i fywyd gwyllt. Yn 2014, fe daenon ni had blodau gwyllt a gasglwyd o ddolydd ein parcdir a newid y cyfnod pori er mwyn tyfu cnwd gwair mwy traddodiadol. Bron yn syth yn 2015 fe welon ni’r weirglodd yn gwella er lles bywyd gwyllt, ac erbyn 2017, roedd yn llawn bywyd a lliw.
 

Ein porwyr cadwraethol ar waith ar arfordir Ceredigion
Ein porwyr cadwraethol ar waith ar arfordir Ceredigion

Rhannu llwyddiannau ein prosiect

Byddwn yn monitro y glaswelltiroedd gwahanol bob blwyddyn i weld sut maen nhw’n ymateb i’r gwaith a gyflawnwyd gan y prosiect ac yn rhannu’r llwyddiannau trwy ddigwyddiadau megis Diwrnod Gweirgloddiau Cenedlaethol yn Llanerchaeron neu Ddiwrnod Dathlu Ffermio a Bywyd Gwledig.