Darganfod Penrhyn Marloes




Mae Penrhyn Marloes yn lle arbennig iawn gyda llawer o fywyd gwyllt, blodau hyfryd a theithiau arfordirol gwych. Mae’r penrhyn hwn yn llechu yng nghornel orllewinol Sir Benfro, ac mae’n aros i gael ei ddarganfod.
Felly, i’ch helpu chi i ddarganfod mwy am yr ardal fe ofynnon ni i drigolion lleol, staff ac ymwelwyr rannu eu straeon nhw ynglŷn â beth sy’n gwneud Marloes mor arbennig. Fe glywson ni am adfer gweundir, am y bywyd tanfor rhyfeddol, am grwydro ynysoedd a thraethau tywodlyd ac am weld morloi bach yn yr Hydref. Yn wir i chi, mae gan ein penrhyn pert lawer i’w gynnig.
Tune into the Marloes video series
Listen to the Marloes audio trails