Cadwraeth ar waith: yr amgueddfa drenau

Mae llawer o’n hymwelwyr wrth eu bodd yn mynd i’r Amgueddfa Drenau felly mae’n bwysig sicrhau bod yr eitemau yn y casgliad yn edrych ar eu gorau!

Mae Tony’n gofalu bod y pibellau’n sgleinio
Glanhau gwaith pres yr injan
Mae Tony’n gofalu bod y pibellau’n sgleinio

Dyma Tony, un o’n Cynorthwywyr Cadwraeth, yn sgleinio darnau pres ‘Charles’. Mae’n defnyddio stwff sgleinio a chlwt sych i bolisho a gloywi er mwyn sicrhau bod un o’r llu o eitemau poblogaidd yn yr amgueddfa’n sgleinio fel swllt.

Y tro nesaf y dewch i’r Castell, dewch draw am sbec!