Siop y Castell
Mae siop y castell y tu mewn i’r prif dŷ, wrth ymyl y ceginau Fictoraidd. Mae gennym ni lawer o anrhegion i‘r cartref, fel rygiau hardd, sgarffiau a charthenni wedi eu hailgylchu. Rydyn ni hefyd yn cadw detholiad da o jam, picl a bisgedi blasus a chynnyrch lleol gan gynhyrchwyr fel ‘Laughing Bird’ sy’n defnyddio dulliau a chynhwysion traddodiadol o’u gardd eu hunain i wneud colur ac eli croen hyfryd. Mae digon i gadw’r dwylo a’r meddyliau bach yn brysur hefyd gyda gemau, trychfilod, teganau a llyfrau i blant. Neu beth am brynu barcud neu swigod i chwarae yn yr ardd?!
Siop y Stablau
Fe wnaethon i ailwampio’r stablau llynedd ac mae’r siop newydd yno yn cynnig pob math o anrhegion ar gyfer y garddwr brwd yn eich bywyd.
Siop Lyfrau Ail-law
Rydyn ni’n lwcus ym Mhenrhyn i gael siop lyfrau ail-law wych yn y bloc stablau. Mae ambell un wedi cael hyd i drysor llenyddol ar ein silffoedd! I gyd wedi eu rhoi gan ein cefnogwyr gwych, diolch yn fawr iawn!