Ganwyd Walter Speed yn 1835 yn Great Abington yn Sir Caergrawnt a daeth yn Brif Arddwr yng Nghastell Penrhyn yn 1862. Aeth ymlaen i weithio i dri o Arglwyddi Penrhyn mewn gyrfa a barodd dros 58 mlynedd. Roedd Speed yn cael ei ystyried yn un o arddwyr gorau ei genhedlaeth.
Fe roddodd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol y Fedal Fictoraidd er Anrhydedd (VHM) iddo, gyda’r Frenhines Fictoria ei hun yn cyflwyno’r fedal, yn 1897.
Yn ystod ei amser fel Prif Arddwr roedd y gerddi ym Mhenrhyn yn cael eu hystyried yn un o dair gardd gorau Prydain.
Gweithio a bywyd domestig
Roedd Speed yn rheoli dros 30 o arddwyr oedd yn gofalu nid yn unig am ‘diroedd pleser’ y castell ond hefyd am fwy na 6 acer (2.5 hectar) o erddi ffrwythau a llysiau. Bryd hynny roedd gweithio dan Speed ym Mhenrhyn yn cael ei weld fel un o’r cyfleoedd hyfforddi gorau bosib i arddwyr ifanc, yn well hyd yn oed na gweithio yn Kew neu Windsor.
Priododd Speed â Charlotte yn 1889 ac fe gafodd y cwpl 14 o blant. Arhosodd llawer i weithio ym Mhenrhyn gan fod y teulu’n meddwl cymaint o’u tad. Bu farw Speed yn 1921 yn 84 mlwydd oed a chafodd ei gladdu gyda’i wraig a phedwar o’i blant.
Roedd Speed yn un o’r ychydig rai i adael gwaddol sy’n dal i gael ei gofio yng Nghastell Penrhyn heddiw.