Mi ofynnon ni i Zoe a Neil beth wnaeth eu hysbrydoli i gynnig am y cyfnod preswyl yma:
“Mae Penrhyn yn ein hysbrydoli’n fawr; mae’n lle sy’n cyd-fynd â’r amcanion sy’n ganolog i’n gwaith ni. Castell sy’n greadigaeth ffantasi ydi Penrhyn, yn hofran rywle rhwng y go iawn a’r dychmygol, ac eto, o dan ei gragen grand, fawreddog mae plethwaith o straeon cymhleth yn gwau drwy’i gilydd ac yn datod fel haenau nionyn yn cael ei bilio.
“Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn canfod ffyrdd o feddwl am lafur a’r llafur corfforol yr adeiladwyd y castell arno.
“Mae gennym hefyd ddiddordeb, er enghraifft, mewn tynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd gan y Streic Fawr: ei waddol i’r dyfodol yn y frwydr dros hawliau gweithwyr a sut gallwn greu gwaith sy’n rhoi lle inni fyfyrio ar yr hanes yma a’r frwydr galed a’i creodd yn ogystal â’i arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol heddiw.
"Ein nod yw creu gwaith sydd mewn ryw ffordd yn unioni’r cydbwysedd grym ac yn cynnig posibiliadau.”
Mae’r sïon ar led yn barod ynglŷn â beth fydd siâp a ffurf yr arddangosfa yma dros y misoedd sydd i ddod – mae ’na sôn hyd yma am gerfluniau enfawr, cerddoriaeth a pherfformiadau. ..
Gawn ni weld!