Apêl carped Whistler

Murlun 58 troedfedd Rex Whistler ym Mhlas Newydd, Ynys Môn.

Nid ystafell arferol yw ystafell fwyta Whistler ym Mhlas Newydd – mae’n cynnwys murlun trawiadol a charped lliwgar wedi’i wehyddu â llaw.

Cafodd y carped ei ddewis gan y teulu yn yr 1930au. Ar ôl dros 70 mlynedd o fynd a dod gan y teulu a miloedd o ymwelwyr, mae’n bryd i’r carped ymddeol. Gyda’ch help chi, gallwn adfer yr ystafell i’w hen ogoniant.

Edrych ar ôl y tŷ a'r casgliadau

" Mae colli’r carped yn dorcalonnus. Mae’n bwysig ein bod yn gallu dathlu a phrofi’r ystafell fel y bwriadwyd hi’n wreiddiol, gyda’i phatrymau a’i lliwiau cyfoethog."
- Taya Drake, Rheolwr Tŷ a Chasgliadau