Cymeriad
Mae'r llyfrgell yn adlewyrchu diddordeb brwd y chwiorydd Keating mewn llenyddiaeth. Ymysg y gweithiau sy’n llechu yn y biwrô llyfrau Siôr III mae cyfrolau gan Syr Clough Williams-Ellis a beirdd fel R.S Thomas a Teresa Hooley.
Y tu hwnt i'r llyfrgell mae'r parlwr gydag amrywiaeth o ddodrefn sydd unwaith eto'n adlewyrchu chwaeth y chwiorydd. Y darnau harddaf o ddodrefn yma yw'r cabinetau o bren mahogani Iseldiraidd ac argaenwaith (‘marquetry’).
Yr ystafell wely felen
Symudodd y chwiorydd i Blas yn Rhiw tua adeg yr Ail Ryfel Byd. Yn yr ystafell wely felen wrth ochr y parlwr mae elfennau penodol sy'n adlewyrchu'r cyfnod hwn.
Ar y gwely mae cwilt clytwaith: mae hwn yn un o’r miloedd o gwiltiau a wnaed gan bobl Canada yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Anfonwyd nhw i Brydain gan Gymdeithas y Groes Goch Canada a'u rhoi i ysbytai, i filwyr, ac i deuluoedd oedd wedi colli eu cartrefi drwy fomiau.
Ystafell wely Honora
Yn 1939, teithiodd Honora ar long nwyddau i'r Dwyrain Pell. Yn ystod y 3 wythnos a dreuliodd yn Japan, cafodd amser i astudio technegau dwyreiniol mewn paentio ac ysgythru pren.
Adlewyrchir hyn yn ei chasgliad o dorluniau pren Japaneaidd, yn cynnwys un gan Hokusai. Mae'n amlwg drwy'r holl dŷ bod gan Honora lygad dda a thipyn o ddawn fel artist.Edrychwch ar ei llyfr braslunio yn y parlwr, ei phrint torlun pren o dirwedd Pen Llŷn a argraffwyd ar gyfer Cyngor Diogelu Cymru Wledig, a'r gwaith cynharach a wnaeth pan oedd yn astudio yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain.
Y ffasiynau diweddaraf
Pan oedd y chwiorydd Keating yn ifanc roedden nhw’n byw yn Nottingham a Llundain, lle roedd y ffasiynau ar y pryd yn cynnwys y steil ysgwyddau llydain (wedi'u padio), llewys pwff, cotiau ffwr, hetiau a dillad blodeuog.