Eglwys Hywyn Sant
Gelwir eglwys Hywyn Sant yn 'Eglwys Gadeiriol Llŷn'. Mae’n sefyll mewn lleoliad trawiadol wrth ymyl y traeth ym mhentref tlws Aberdaron, ym mhen pellaf penrhyn Llŷn.
Dilynwch yn ôl traed y pererinion
Yn y Canol Oesoedd roedd dau brif lwybr pererindod – ar hyd arfordiroedd gogledd a de Penrhyn Llŷn. Roedd y llwybrau hyn yn cwrdd yn Aberdaron. Dyma lle fyddai'r pererinion yn aros ac yn paratoi ar gyfer y daeth fer, beryglus ar draws y môr i Ynys Enlli.
Camwch i mewn
Un o nodweddion pensaernïol mwyaf diddorol eglwys Hywyn Sant yw'r drws gorllewinol Normanaidd. Ond mwy cyfareddol fyth efallai, yw'r ddwy garreg gerfiedig sy’n sefyll yn erbyn y mur gogledd-ddwyreiniol.
Credir mai beddfeini dau offeiriad cynnar, Veracius a Senacus, yw'r rhain. Mae'n bosibl bod yr offeiriaid yn aelodau o gymuned grefyddol fechan yma.
Yr arysgrifau
Ar y garreg chwith fe welwch yr arysgrif 'VERACIUS PBR HIC IACIT', sef 'Gorwedd yr offeiriad Veracius yma'. Mae'r garreg ar y dde yn dwyn yr arysgrif 'SENACUS PRSB HIC IACIT CUM MULTITU DNEM FRATRUM PRESBYTER', sy'n golygu 'Gorwedd yr offeiriad Senacus yma gyda llawer o'i gyd-offeiriaid'.
Mae rhai haneswyr yn credu y gallai hyn fod yn cyfeirio at y traddodiad bod 20,000 o saint wedi eu claddu ar Enlli.
Mae'r cerrig yn glogfeini sydd wedi cael eu treulio’n naturiol gan ddŵr. Ond mae'r llythrennu'n ofalus ac yn soffistigedig. Nid yw’n bosib dyddio'r arysgrifau'n fwy cywir na diwedd y bumed ganrif neu ddechrau'r chweched ganrif.