Siop yr Iard
Mae’r siop anrhegion yn yr iard, lle roedd offer y ceffylau’n cael eu cadw ers talwm, yn lle perffaith i ddod o hyd i rodd arbennig. Mae ’na rywbeth i bawb yma o gynnyrch arbennig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fwydydd lleol, sgarffiau, gemwaith o aur Cymru, llyfrau, anrhegion wedi eu gwneud â llaw a llawer mwy.
Planhigion ar werth
Os yw’r terasau hardd a’r gerddi ffurfiol ysblennydd wedi eich ysbrydoli, piciwch draw i’n siop blanhigion i brynu rhywbeth i’w ychwanegu at eich gardd chi gartref.
Mae ein planhigion i gyd wedi eu tyfu mewn compost heb fawn yn ein planhigfa carbon-niwtral.
Unigryw i Bowis
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth sydd ychydig bach yn wahanol, pam na phrynwch chi rywbeth sy’n unigryw i Gastell Powis?
Mae’r bragdy lleol, Monty’s, wedi ennill llawer o wobrau am ei ddiodydd ac wedi mynd ati i greu cwrw arbennig ar gyfer ein siop ni. Mae’n gwrw euraidd a blas hopys arno ac wedi ei enw’n ‘Clive’ er cof am gysylltiadau’r castell gyda Robert Clive o India. Coeliwch chi ni, mae’n blasu’n fendigedig!