Tŷ’r Portreadau

Dewch i ymweld â’n harddangosfa ‘Tŷ’r Portreadau’ i ddatgelu’r cyfrinachau sy’n cuddio yn ein casgliad byd-enwog o bortreadau.

Mae neuaddau mawr ac ystafelloedd tawel Castell Powis yn llawn portreadau eithriadol. O bortreadau mawreddog hyd llawn i finiaturau personol y gallwch eu dal yng nghledr eich llaw, dyma weithiau cenedlaethau o artistiaid talentog.

Mae rhai o weithiau’r castell yn dangos brenhinoedd, ymerawdwyr a maharajas ond mae’r mwyafrif helaeth yn portreadu dynion, menywod a phlant teulu dylanwadol yr Herbertiaid sydd wedi byw ym Mhowis am dros bedair canrif.

Dewch i gloddio o dan wyneb gweithiau artistiaid adnabyddus fel Joshua Reynolds, John Singer Sargent a Thomas Gainsborough i ddatgelu’r ystyron cudd sy’n cuddio ynddynt.

Gallwch ddewis taith sain neu daith sain i’r teulu, a darganfod mwy am yr arddangosfa yng nghwmni Dr John Chu, Curadur Cynorthwyol Darluniau a Cherfluniau, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a mwynhau cyfle unigryw i weld y casgliad byd-enwog hwn drwy lygaid arbenigwr.
 

Dathlu


Canolbwynt yr arddangosfa yw trysor a ddaeth yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ddiweddar iawn – portread miniatur Jacobeaidd gan Isaac Oliver (1565-1617), a gafodd ei brynu ar ran y genedl gyda nawdd Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol a’r ArtFund.

Mae’r miniatur yn dangos Edward Herbert, Baron Herbert 1af Cherbury, gwladweinydd, bardd, diplomydd, cerddor a marchog. Roedd yn ymgorffori rhamant a sifalri ei oes ac roedd yn gwybod hynny’n iawn!

Isaac Oliver (about 1565–1617) Sir Edward Herbert, later 1st Baron Herbert of Cherbury (1581/2–1648) c.1613–14
Watercolour of Sir Edward Herbert, later 1st Baron Herbert of Cherbury
Isaac Oliver (about 1565–1617) Sir Edward Herbert, later 1st Baron Herbert of Cherbury (1581/2–1648) c.1613–14



Yn ystod ei fywyd, comisiynodd sawl portread ohono’i hun gan artistiaid mwyaf ffasiynol y cyfnod, ac mae rhai o’r rhain i’w gweld yng Nghastell Powis; gan gynnwys campwaith y paentiwr brenhinol Prydeinig, Isaac Oliver.

Yn y portread cafodd Arglwydd Herbert, dyn golygus iawn, ei baentio mewn ystum ymlaciol, yn gorwedd yn y coed, ar ôl ymryson twrnamaint: mae’n syllu’n syth at yr arlunydd, yn ceisio denu edmygwyr. Ond pam cafodd y llun hwn ei baentio, beth oedd ei bwrpas, a beth yw arwyddocâd ei darian a’r arysgrif Magica Sympathiae?
 

Dysgu

Heddiw, does dim llawer ohonom yn gorfod eistedd yn amyneddgar yn aros i arlunwyr enwog roi eu brwsh ar y cynfas a phaentio llun ohonom; fodd bynnag, mae pob un ohonom yn gyfarwydd ag aros yn llonydd i rywun dynnu ffotograff a chofnodi adegau pwysig yn ein bywydau. Rydym yn meddwl bod cyfleu delwedd gadarnhaol o’n hunain yn beth cymharol newydd; fodd bynnag dyma’r union beth roedd arlunwyr portreadau yn ceisio ei wneud ar ran eu modelau ganrifoedd yn ôl.

Cafodd adegau a chyflawniadau pwysig yn hanes y teulu Herbert eu cofnodi gan yr arlunwyr portreadau, ond oherwydd cost y lluniau hyn dim ond un cyfle oedd ar gael i gipio a chyfleu cymeriad yr unigolyn mewn campwaith a fyddai’n cael ei drosglwyddo i’r cenedlaethau i ddod. Mae portreadau a gafodd eu comisiynu gan aelodau’r teulu 400 mlynedd yn ôl yn dal i gael eu harddangos yn falch ar waliau’r castell i bawb eu gweld.

Yn ystod eich ymweliad byddwn yn eich gwahodd i greu a rhannu eich cyfres personol o ‘hunluniau’ neu ‘selfies’. Sut fyddech chi’n cyfleu eich cymeriad a’ch neges petai eich portread chi am bara am o leiaf 400 mlynedd fel rhai’r teulu Herbert?

Mae arddangosfa Tŷ’r Portreadau i’w gweld rhwng 20 Mawrth 2018 a 27 Ionawr 2019.