Mae monitro gofalus o’r cynefin wedi dangos ei fod wedi gwella’n sylweddol ers i’r gwaith gael ei wneud. Mae pyllau yn ail-ffurfio ac mae planhigion cors arbenigol fel mwsoglau migwyn, plu'r gweunydd a gwlith yr haul yn ffynnu unwaith eto. Mae mawndir gwlyb yn gynefin delfrydol ar gyfer cwtiaid aur a gylfinirod a dros yr haf dychwelodd y ddwy rywogaeth i'r safle i fridio'n llwyddiannus yn y cynefinoedd wedi'u hail wlychu gyda chywion o'r ddwy rywogaeth i'w gweld. Dyma’r tro cyntaf i’r adar fridio’n llwyddiannus ar y safle hwn ers yr 1990au.
Dywedodd Edward Ritchie, tenant Blaen y Coed:
“Mae'n wych cael clywed y Gylfinir yn ôl yn Blaen y Coed. Mae'r prosiect hefyd wedi helpu i ddarparu gwaith peiriannau arbenigol i'm brawd. Ac mae'r canlyniadau wedi caniatáu ar gyfer pori mwy gwasgaredig gan y defaid yn yr ardal, felly rydyn ni'n falch o'r ffordd mae pethau wedi mynd."
Dywedodd Dewi Davies, Rheolwr Prosiect ar gyfer Prosiect Dalgylch Uwch Conwy:
“Mae’r trawsnewid yr ydym wedi’i weld trwy ein partneriaeth ar y dirwedd arbennig yma wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r hyn a oedd unwaith yn ardal o orgors ddiraddiedig, bellach yn gynefin cyfoethog sy'n darparu cyfres gyfan o wasanaethau ecosystem hanfodol fel storio carbon, hidlo dŵr, amddiffyn rhag llifogydd a chartref i fywyd gwyllt.”
Dywedodd David Smith, Uwch Swyddog Cadwraeth RSPB Cymru:
“Mae’r llwyddiannau hyn yn dangos bod gweithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin o adfer natur yn gweithio, ac mae wedi bod yn wych gweld sut mae’r brodyr Ritchie wedi llwyddo i gyfuno ymdrechion cadwraeth gyda’r dasg bob dydd o redeg eu busnes fferm. Mae’n stori wych, a gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli prosiectau tebyg yn y dyfodol.”