Coed 'anadferadwy' wedi'u colli yn Storm Arwen, dywed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae Storm Arwen wedi achosi difrod sylweddol i rai o goed mwyaf gwerthfawr ac unigryw y DU, ac i un o erddi mwyaf mawreddog y byd, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Yn sgil gwyntoedd cryfion ddydd Gwener, mae nifer o goed ledled gogledd Cymru a Lloegr wedi'u chwalu, gan gynnwys rhai o'r sbesimenau mwyaf eithriadol dan ofal yr elusen.
Roedd ehangder llawn y difrod yn dal i gael eu hasesu ddydd Mercher, meddai'r Ymddiriedolaeth, ond mae'n debygol y bydd y gwaith atgyweirio yn costio o leiaf £3miliwn.
Gadawyd staff mewn dagrau ar ôl i Storm Arwen daro rhai o dirluniau a gerddi hyfrytaf y sefydliad.
Yng Ngerddi Bodnant, sy'n lleoliad byd-enwog yng ngogledd Cymru, cafodd dros 50 o goed eu diwreiddio, gan gynnwys coeden goch 'Campus' 51m o hyd - y mwyaf o'i math yng Nghymru[1] - a nifer o rododendronau cymysgryw sy'n unigryw i'r eiddo.
Mae'r elusen wedi disgrifio'r difrod yn 'ergyd enfawr i dreftadaeth Genedlaethol'.
Dywedodd Andy Jasper, Pennaeth Gerddi a Pharcdiroedd yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "O ran garddwriaeth, mae'r hyn sydd wedi digwydd ym Modnant yn hynod sylweddol. Rydym wedi colli rhai o'n sbesimenau coed a rhododendronau unigryw pwysicaf a chynharaf – ac mae graddfa'r difrod yn dal i gael ei hasesu. Dyma ergyd enfawr i dreftadaeth Prydain.
"A hithau'n Wythnos Genedlaethol y Goeden, roeddem yn disgwyl y byddem yn dathlu'r coed anhygoel sydd dan ein gofal - yn hytrach na gweld graddfa'r dinistr sydd gennym. Ond mae'r wythnos hon wedi rhoi arwyddocâd newydd i ni, ac rydym yn gofyn i'n cefnogwyr gyfrannu'n ariannol, os allant, er mwyn ein helpu ni i adfer y lleoedd sydd wedi'u heffeithio.
"Bydd ein gerddi a'n tirluniau yn cymryd misoedd i glirio a blynyddoedd, degawdau hyd yn oed, i'w hadfer yn gyfan gwbl. Ni fydd rhai byth yr un fath, ond heb amheuaeth bydd ein timau rhyfeddol yn ail-greu'r lleoedd poblogaidd hyn a'u hail-agor i bawb eu mwynhau. Byddwn hefyd yn sicrhau bod y gwaith adfer hwn mor wydn â phosibl i ddigwyddiadau tywydd eithafol o'r math hwn, sy'n dod yn fwyfwy cyffredin wrth i'r hinsawdd newid."
Yn Wallington, yn Northumberland, cafodd dros hanner o 'genhedlaeth' o goed hynafol eu colli wrth i gyflymder y gwyntoedd gyrraedd hyd at 98mya yn y rhanbarth hwn.
Dywedodd staff yr ystâd mai dyma'r dinistr gwaethaf a achoswyd gan storm mewn 40 mlynedd gyda miloedd o goed wedi disgyn, gan gynnwys dros hanner y coed derw a ffawydd a gafodd eu plannu gan Syr Walter Calverley Blackett[2] 250 mlynedd yn ôl, yn ogystal â'r llarwydden Atholl – yr olaf o chwe llarwydden a roddwyd i'r eiddo yn 1738 gan Ddug Atholl – a oedd wedi'i rannu'n ddwy ran.
Nid oes pŵer, llinellau ffôn na dŵr yn yr eiddo, ac mae'r llwybrau troed i gyd wedi'u rhwystro.
Trawodd Storm Arwen ddydd Gwener gyda gwyntoedd cryf ac eira yn disgyn yn rhai rhannau o'r DU.
Ddydd Mercher, roedd staff Ardal y Llynnoedd yn dal i gyfrif y nifer o goed sydd wedi disgyn, a disgwylir i'r cyfanswm terfynol fod yn y miloedd.
Mae cannoedd o goed wedi'u colli ar ystadau hanesyddol megis Wray Castle ar lan orllewinol Windermere, Fell Foot a Sizergh ger Kendal, gyda nifer o lwybrau troed yn parhau i fod wedi cau.
Yn llefydd megis Tarn Hows, tirlun wedi'i ddylunio yn y 19eg ganrif a oedd ar un adeg yn eiddo i Beatrix Potter, mae coed wedi disgyn a malurion yn rhwystro'r ffyrdd a'r llwybrau, ac yn gwneud swydd y ceidwaid o ran asesu'r difrod hyd yn oed yn fwy anodd[3].
Ymhlith eiddo hŷn a gafodd eu heffeithio'n ddrwg mae Hardcastle Crags yng ngorllewin Swydd Efrog, Erddig ger Wrecsam, Craigside yn Northumberland ac Attingham Park yn Swydd Amwythig.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gofyn i gefnogwyr gyfrannu beth allant i'w hapêl codi arian at y Coetiroedd i helpu gydag adferiad nawr ac yn y dyfodol: www.nationaltrust.org.uk/woodlands-appeal.
Disgwylir i'r gwaith clirio ym Modnant gymryd sawl mis.
Dywedodd Prif Arddwr dros dro Gerddi Bodnant, Adam Salvin: "Mae'r staff a'r gwirfoddolwyr wedi cael sioc yn gweld y dinistr sydd wedi'i achosi mewn un noson. Rydym wedi bod mewn dagrau. Rydym wedi gweld stormydd a llifogydd yma o'r blaen ond mae'r difrod hwn ar raddfa heb ei thebyg.
"Yr ardal sydd wedi'i heffeithio fwyaf yw Coed y Ffwrnais[4] lle'r ydym wedi gwneud gwaith adnewyddu sylweddol yn ystod y degawd diwethaf. Mae'r storm wedi rhwygo drwy'r llechwedd honno. Mae'n hynod drist ei gweld. Ond bydd natur yn siŵr o adfer. Mi ddown ni'n ôl ar ein traed."
Dywedodd y Rheolwr Cyffredinol, John Walker: "Mae holl aelodau'r tîm wedi bod yn wych ac rydym yn ceisio canolbwyntio ein hegni ar y gwaith o glirio. Rydym wedi cael cymaint o gefnogaeth gan ymwelwyr a phobl yn dymuno'n dda i ni, ac mae hynny wedi codi calon pawb."
Mae'r ardd yn un o'r gerddi mwyaf sylweddol yn y wlad, yn enwog am ei phlanhigion prin ac egsotig, pum Casgliad Cenedlaethol[5] a chasgliad mwyaf Cymru o goed Campus y DU.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynghori ymwelwyr â safleoedd yng ngogledd Cymru a Lloegr i wirio gwefannau eiddo cyn cychwyn eu taith. Mae rhai lleoedd yn dal i fod wedi cau ac mae'n bosibl bod llwybrau cerdded wedi newid yn lleoliadau eraill.
Gallwch gyfrannu'n ariannol ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: nationaltrust.org.uk/woodlands-appeal.