Tirlun fel ‘capsiwl amser’ yn Eryri yn dod dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru er budd natur, yr hinsawdd a chymunedau

Datganiad i'r wasg
A person stands of a hillside of Y Foel, Snowdonia with the valley and mountains behind
Cyhoeddwyd : 24 Jan 2022

Mae cannoedd o erwau o lechweddau yn nhirlun chwarelyddol Eryri wedi dod dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i hyrwyddo poblogaethau bywyd gwyllt, mynd i'r afael â newid hinsawdd a chynyddu diddordeb yn hanes chwarelyddol yr ardal.

Mae'r safle anghysbell, sy'n cwmpasu 1,600 erw o'r Foel, yn gorwedd i'r de o Gonwy ac yn cynnwys tair chwarel sydd wedi cau bellach, ffrydiau yn llifo i lawr llethrau'r mynydd a chlogwyni serth â grug yn orchudd drostynt, gyda golygfeydd ar draws y Parc Cenedlaethol. 

Wedi'i leoli ar drwyn Dalgylch Conwy[1] lle mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio ers dros ddegawd i arafu llif y dŵr er mwyn lleihau'r risg o lifogydd a chreu cynefinoedd cyfoethog i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Yn ôl partneriaid, mae'r Foel yn chwarae rôl bwysig o ran parhau â'r gwaith hwn ar raddfa tirlun er budd pobl a natur.

Bydd cynefinoedd sydd wedi dirywio, gan gynnwys ehangder o dir mawn o arwyddocâd cenedlaethol, yn cael eu hadfer er mwyn iddynt amsugno symiau mawr o garbon a dŵr, gan gynorthwyo'r tirlun i amsugno effeithiau tywydd eithafol a lleihau llifogydd yn y dyffryn.

Amcangyfrifir y gallai'r safle amsugno dros 350,000 o dunelli o garbon ar ôl ei adfer, sy'n gyfwerth â thynnu bron i 80,000 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn[2]. 

Yn ddiwylliannol, mae'r tirlun wedi'i ddisgrifio'n dirlun hanesyddol, gydag olion o gefndir chwarelyddol yr ardal ar wasgar ar y llechweddi. 

Arferai arteffactau, megis y llethr pŵer dŵr, symud llechi i fyny ac i lawr y llethrau serth, ac mae'r rhesi o fythynnod chwarelwyr yn codi cwr y llen ar gyfnod pan oedd Cymru'n adnabyddus fel 'y lle a roddodd do ar y byd', a bydd hyn yn cael ei warchod ac yn destun ymchwil fel rhan o'r cynlluniau.

Dywedodd Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:

“Mae'r Foel yn lle trawiadol iawn, yn gyfoeth mewn hanes, ac mae ganddo botensial enfawr i natur ffynnu - rydym yn falch iawn o fod yn geidwaid ar hynny."

"Mewn sawl ffordd, dyma'r darn jig-so coll a fydd yn ein galluogi ni i ymuno â sawl safle gwahanol a gweithio gyda phartneriaid yn eang ar draws y tirlun. Bydd mwy o le ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys rhwydwaith o berthi newydd, a'r gallu i storio symiau enfawr o ddŵr a charbon yn ddwfn yn y tir mawn."

"Mae'r haenau o ryngweithiad dynol gyda'r tirlun yn rhyfeddol, o'r hen ffordd Rufeinig i'r tair chwarel lechi a fu'n gymorth i'r wlad ennill cydnabyddiaeth fyd-eang. Mae gennym gyfle go iawn yma i wella mynediad at y lleoliad hanesyddol hwn a gweithio gyda'r gymuned leol i ddehongli a gwarchod ei threftadaeth gyfoethog."

Mae'r safle hefyd yn rhannu ffiniau â'r ardal sydd newydd ei dynodi'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO[3] ac mae Llwybr Llechi Eryri yn nadreddu ei ffordd drwy'r canol.

Yn ogystal ag olion amlwg gorffennol chwarelyddol Eryri, mae gan y tirlun sawl nodwedd o ffermio ôl-ganoloesol, gyda chorlannau, adfeilion ac olion o dorri mawn ar hyd y safle. 

Erbyn hyn mae ffosydd o hyd at fetr o led yn gris-croes ar draws y safle, yn y llefydd y cafodd y mawn ei ddraenio – a hynny'n bennaf mewn ymgais i gynyddu cynhyrchiad bwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Bydd y ffosydd hyn yn cael eu llenwi er mwyn atal rhagor o erydiad ac er mwyn troi'r cynefin yn storfa garbon iach.

Safle 1,600 erw Y Foel, i'r de o Gonwy
Y Foel farm nestled in the valley surrounded by the mountains and hills of Snowdonia
Safle 1,600 erw Y Foel, i'r de o Gonwy

Yn ôl yr elusen a'i phartneriaid, bydd y caffaeliad yn caniatáu mwy o ymyriadau er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd a bydd yn cyd-fynd â phrosiect Dalgylch Uwch Conwy yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol[4] – y cynllun mwyaf o'i fath yng Nghymru.

Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd-orllewin Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym wedi gweithio'n agos â'r Ymddiriedolaeth ar adfer mawndiroedd, coetiroedd ac i greu cynefinoedd eraill, ac adfer afonydd yn nalgylch Conwy, gan gefnogi'r cyfle i weithio ar y raddfa mae'r Foel yn ei chynnig. Mae'r amseru yn hollbwysig, mae angen i ni gyflawni newidiadau i'r modd y rheolir y tir, a hynny'n gyflym iawn mewn ardaloedd allweddol. Mae'r Foel yn cynnig carreg gamu i'r Ymddiriedolaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar y tirlun o bersbectif llawer ehangach." 

Bydd y tir hwn, a arferai fod yn dir pori, yn parhau i gael ei bori gan ddefaid a gwartheg, a'r nod yw creu 'mosäig' o laswelltir a grug, dolydd a gorgors. Bydd perthi newydd yn cael eu plannu yn y caeau isaf a bydd y tir uchaf yn dod yn lle delfrydol i nythu a bwydo ar gyfer adar dan fygythiad, megis y bodaod tinwyn, a rhywogaethau eraill, gan gynnwys hebogau tramor, gylfinirod a'r grugiar goch.

I'r dwyrain, mae'r tir yn cysylltu ag Ystad Ysbyty yr Ymddiriedolaeth, sy'n bwysig am ei gwerth naturiol a diwylliannol, ac yno mae 51 o ffermydd tenantiaid yn ogystal â Migneint, rhostir o orgors mawn dyfn[5], sydd ag arwyddocâd cenedlaethol.

I'r gogledd, mae'n rhannu ffiniau â fferm hyfryd Carrog, tyddyn lle mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn gweithio gyda'i phartneriaid i gael gwared ar rwystrau wedi'u gwneud gan bobl yn rhan o'r afon er mwyn caniatáu prosesau naturiol ac i gynorthwyo gyda lliniaru llifogydd ac ansawdd dŵr.

Bydd y Foel dan reolaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda chymorth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a RSPB[6], tirfeddianwyr eraill ac aelodau'r gymuned.

Bydd rheolwr fferm yn cael ei benodi i ofalu am y da byw a gweithio gyda phartneriaid a ffermwyr lleol i wella cynefinoedd.

Ychwanegodd Trystan Edwards; 

"Dyma gyfle gwych i unrhyw un sy'n frwd dros gadwraeth a sgiliau ffermio ucheldiroedd Cymru i chwarae rhan yn gofalu am y tirlun anhygoel hwn."

“Hoffem benodi naturiaethwr brwdfrydig a bugail profiadol i reoli'r da byw ac i arsylwi a chofnodi planhigion wrth i ni weithio gyda phartneriaid a ffermwyr lleol i warchod y tirlun hanesyddol hwn a chreu mosäig cyfoethog o gynefinoedd."

"Dafliad carreg yn unig o Gwm Penmachno, ac yng nghalon cymuned amaethyddol gref, byddwn yn chwilio am rywun sy'n cyd-dynnu'n dda gyda phobl ac a fydd yn gwreiddio yn y Cwm."

Am ragor o wybodaeth ynghylch y rôl, a sut i wneud cais, ewch i www.nationaltrustjobs.org.uk a chwiliwch am IRC112472. Y dyddiad cau yw 6 Chwefror.