Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn geidwad ar dirwedd yng Nghanolbarth Cymru sy’n ‘drysor hanesyddol cudd’ er mwyn cysylltu pobl a natur

Datganiad i'r wasg
Golygfa o'r awyr o'r Hafod
Cyhoeddwyd : 06 Jun 2022 Diweddariad diwethaf : 08 Jun 2022

Mae tirwedd bictiwrésg dau gan hectar o faint yn Hafod ym Mynyddoedd Cambria bellach dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru er mwyn diogelu dyfodol yr ystad a chynnig cyfleoedd i fwy o bobl fwynhau ei natur, ei harddwch a’i hanes.

Lleolir Hafod yn nyffryn Ystwyth, ger Aberystwyth. Cydnabyddir bod Hafod yn un o’r enghreifftiau gorau yn Ewrop o dirwedd bictiwrésg, gyda’i rhaeadrau llifeiriol, ei llennyrch mwsoglyd, ei gerddi adferedig a’i phontydd dros geunentydd creigiog.

Yn awr, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dod ynghyd, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, i ddiogelu dyfodol yr ystad. Trwy gyfrwng prydles reoli newydd a gytunwyd â Cyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn para 99 mlynedd, bydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gofalu am Hafod, yn cynnwys ei thiroedd, ei gerddi a’i llwybrau cerdded helaeth, gan ei diogelu am genedlaethau i ddod.

Yn y gorffennol, câi Hafod ei hadfer a’i chynnal a’i chadw gan Ymddiriedolaeth Hafod mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i reoli’r goedwig weithredol a’r gwaith rheoli coetir.

Medd Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Dros Dro Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: 

“Mae Hafod yn un o drysorau hanesyddol cudd Cymru. Rydym yn falch iawn o gael adeiladu ar waddol y gwaith a wnaed gan Ymddiriedolaeth Hafod a Cyfoeth Naturiol Cymru a gwneud ein rhan i ddiogelu a gwarchod y lle arbennig hwn i bawb.

Fel elusen gadwraeth, gwyddom fod treulio amser yn yr awyr agored a chysylltu â natur yn hollbwysig i hapusrwydd a llesiant pobl. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i Hafod a diolchwn i Ymddiriedolaeth Hafod, Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru am weithio gyda ni i esgor ar fuddion i’r cyhoedd yn yr ardal unigryw hon.”

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “Bu’n fraint gweithio gydag Ymddiriedolaeth Hafod i adfer a dathlu ardal mor brydferth o Ganolbarth Cymru ac i helpu i warchod y nodweddion naturiol a hanesyddol arbennig sy’n aros i gael eu darganfod yn Hafod.

“Mae’r cytundeb les yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i adferiad parhaus yr ystâd, ac rwy’n sicr y bydd Hafod yn ffynnu hyd yn oed ymhellach o dan stiwardiaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.”

Cafodd tirwedd Hafod ei ffurfio yn niwedd y ddeunawfed ganrif gan ei pherchennog enwocaf, Thomas Johnes. Aeth Johnes ati i osod y tirwedd yn unol â’r egwyddorion pictiwrésg a oedd yn boblogaidd ar y pryd, gan greu cylchdeithiau cerdded a anelai at gynnig i’r ymwelwyr olygfeydd o’r nodweddion naturiol a’r nodweddion cynlluniedig. Mae rhai o’r cylchdeithiau hyn wedi cael eu hadfer er mwyn i ymwelwyr allu eu mwynhau drachefn heddiw.

Roedd Hafod yn gyrchfan werth ei gweld i’r twristiaid cynnar a ddôi i Gymru, yn cynnwys gwŷr ifanc bonheddig na allent fynd ar y Daith Fawr arferol o amgylch Ewrop oherwydd y rhyfel gyda Ffrainc.

Daeth rhai ohonynt ag artist gyda nhw i gofnodi’r golygfeydd, tra aeth ymwelwyr eraill ati i gyfleu eu profiad trwy greu eu brasluniau a’u dyddiaduron teithiau eu hunain. Parhaodd Hafod i fod yn destun ysbrydoliaeth i deithwyr a phobl greadigol drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.

Mae Hafod yn parhau i ddenu pobl sy’n dymuno cael profiad o’i threftadaeth a’i harddwch naturiol heddiw. Yn ogystal â bod yn frith o gofadeiliau ac adeiladau rhestredig, mae’r ardal yn cynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac mae’n doreithiog o fioamrywiaeth. Yn wir, mae’n gartref i fyrdd o blanhigion a chreaduriaid fel dyfrgwn, beleod a bwncathod.

Gall pobl barhau i ddefnyddio’r ystad a’i phum llwybr cerdded cyfeirbwyntiedig yn rhad ac am ddim, lle cânt fwynhau golygfeydd dramatig o gefn gwlad Cymru a gweld nodweddion pictiwrésg, yn cynnwys rhaeadr arw Peirian a’r Arcêd Gothig sydd bellach wedi’i hadfer ac a leolir wrth ymyl Afon Ystwyth.

Medd Dawn Bawden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: 

“Rydw i wrth fy modd fod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda’n cefnogaeth ni, yn gallu diogelu dyfodol ystad fendigedig Hafod sydd â hanes mor hir o ddenu ymwelwyr ac sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i gynifer o bobl. A hithau wedi’i gwreiddio mewn natur, mae ystad hardd Hafod yn cynnig amgylchedd lle gall trigolion a chymunedau’r ardal gysylltu â natur, ac mae’n darparu man gwyrdd ystyrlon sy’n doreithiog o dreftadaeth.”

Yn ôl Richard Broyd OBE, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Hafod: 

“Mae fy nghyd-ymddiriedolwyr a minnau wrth ein bodd fod ein hymrwymiad dros y deng mlynedd ar hugain diweddaf i warchod ac adfer y dirwedd hon yn cyrraedd ei benllanw gyda chyfraniad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol trwy gyfrwng y cytundeb hwn a fydd yn esgor ar fuddion hirdymor i’r cyhoedd.”

Am fwy o wybodaeth am Hafod cliciwch yma.