Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Taith gerdded heriol drwy ddyffryn cudd. Cewch ddarganfod byd dirgel o ogofâu calchfaen, afonydd tanddaearol a choetir hynafol, cyn dod nôl i olau dydd ar un o draethau harddaf, diarffordd, Gŵyr. Gall y rhai mwyaf sylwgar ddod o hyd i goed fel y gerddinen wyllt.

Dechrau:
Maes pentref Kittle, cyfeirnod grid: SS573893
1
Dechreuwch ar faes pentref Kittle. Cerddwch heibio arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaetholm cadwch fferm Great Kittle ar eich ochr dde, a dilynwch y llwybr lawr i’r coed. Mae’r llwybr yn mynd i lawr am ryw 0.25 milltir (0.4km) a gall fod yn llithrig ar ôl glaw. Pan gyrhaeddwch chi fforch yn y llwybr cadwch i’r chwith gan fynd lawr y grisiau nes i chi gyrraedd y ffens bren ar y dde. Enw’r twll anferth yn y ddaear yw Daw Pit. Ffurfiwyd y twll wrth i’r afon sy’n llifo dan y ddaear achosi i’r tir gwympo.
2
Ewch ymlaen i lawr y rhiw serth i’r gwaelod a throi i’r dde ar hyd gwely sych yr afon. Croeswch yr afon er mwyn cerdded ar yr ochr chwith, gan gymryd gofal o wyneb anwastad y llwybr am ryw 200 llath (180m). Mae’r llwybr yn croesi nôl dros yr afon i’r ochr arall yn y fan yma. Yn ystod cyfnodau o dywydd gwlyb bydd yr afon yn llifo, ond fel arfer mae hi’n fas ac yn hawdd i’w chroesi.
Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Yn ystod cyfnodau o dywydd gwlyb bydd yr afon yn llifo yn y fan hon, ond fel arfer mae hi’n fas ac yn hawdd i’w chroesi. Weithiau gwelir y nant yn diflannu mewn i ‘lyncdyllau’ ac yna’n ail-ymddangos hanner ffordd i lawr y dyffryn ac yn llifo wedyn dros wyneb y tir.
3
Mae’r llwybr fel arfer yn fwdlyd yma. Gwrandewch am sŵn yr afon wrth i chi agosáu at Guzzle Hole.
Guzzle Hole
Ogof yw Guzzle Hole, a thu allan iddo gallwch glywed sŵn dŵr yn taranu yn y nant dan y ddaear, ac yn gwneud synau rhyfedd yn aml. Dyma ystyr yr enw ‘guzzle’.
4
Gellir gweld mwynglawdd Long Ash ar y chwith. Cynhyrchwyd arian a phlwm yma hyd at 1854. Mae’r rhwystr wedi ei osod er mwyn gwarchod mannau clwydo’r ystlumod pedol mwyaf a lleiaf. Mae gweddillion hen fythynnod y mwynwyr gerllaw hefyd.
5
Croeswch yr afon a mynd i fyny ychydig o risiau, gan gadw at yr ochr chwith.
6
Cyn hir byddwch yn dod ar draws un o dair pont sy’n croesi’r afon ar hyd y dyffryn. Roedd y dyffryn unwaith yn lle prysur yn darparu bwyd, tanwydd a gwaith i nifer o bentrefi cyfagos ac mae nifer o lwybrau’n dal i gysylltu cymunedau â’r goedwig. Peidiwch â chroesi’r bont, ond ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr ar lan yr afon. Cadwch lygad yn agored am yr hen waliau cerrig ar y dde wrth i chi gerdded; mae’r rhain yn olion o gyfnod pan oedd anifeiliaid yn pori yn y dyffryn a phan roedd llawer llai o goed yma nag sydd heddiw.
7
Dilynwch y llwybr i mewn i’r ddôl o’ch blaen. Mae dolydd gwlyb y dyffryn wedi eu cofrestru’n dir comin. Mae gwartheg yn pori’r dolydd, ac maen nhw’n gynefin i sawl math o flodau gwyllt. Dilynwch y llwybr wrth iddo arwain allan o’r ddôl a throi nôl i ddilyn glan yr afon. Cyn hir byddwch yn cyrraedd pont arall, ond peidiwch â’i chroesi – ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr nes i chi gyrraedd fforch.
8
Wrth y fforch, cadwch at y chwith. Cyn hir byddwch yn cyrraedd troad i’r dde yn y llwybr; ewch ymlaen ar hyd y llwybr wrth ochr yr afon gan ddilyn yr arwydd i Fae Pwll Du.
Bae Pwll Du
Roedd y bae cysgodol hwn unwaith yn hoff leoliad i smyglwyr oherwydd gallent ddiflannu’n sydyn i mewn i’r dyffryn coediog allan o olwg pawb. Roedd y bae hefyd yn chwarel carreg galch hyd at 1902, ac yn allforio calchfaen i ogledd Dyfnaint.
9
Ewch heibio’r ffens sydd ar ochr y llwybr a phan gyrhaeddwch y fforch dilynwch y llwybr i’r chwith lawr y rhiw. Peidiwch â chroesi’r bont. Pan gyrhaeddwch yr ardd breifat trowch i’r chwith a cherdded at y traeth.
Diwedd:
Dyffryn Llandeilo Ferwallt, cyfeirnod grid: SS573893