Yn y 1970au penderfynwyd atal pori yng nghoetiroedd Stad Dolmelynllyn ac fe’u dynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG). Codwyd ffensys o gwmpas y coetiroedd a symudwyd y stoc oddi yno.
Gan na chafodd y coetiroedd eu pori am 40 mlynedd, cafwyd gordyfiant ac aeth cyflwr y SoDdGA a’r GNG yn llai ffafriol. Felly, yn 2012, dechreusom gydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i feddwl am ffordd wahanol o fynd o’i chwmpas.
Cewri mwyn
Ym mis Mawrth 2015, daethpwyd â Gwartheg yr Ucheldiroedd – Myfi, Wmffre a Hugo – i Goed Ganllwyd. Maent yn frid gwydn â chyrn hir a chotiau tonnog euraidd.
Roeddem yn awyddus i’r gwartheg bori’r isdyfiant; y mieri a’r coed ifanc ar y ddaear er mwyn i dyfiant arall gael cyfle i ffynnu. Mae Myfi’n defnyddio’i chyrn i gipio canghennau isel a phori’r dail; sy’n golygu bod rhagor o olau’n gallu cyrraedd bonion y coed gan roi cyfle i gennau dyfu. Yn ogystal, bu ein ceidwaid yn brysur yn cwympo coed er mwyn dod â mwy o olau i’r ddaear. O ganlyniad i hynny, gwelwyd cynnydd mawr mewn craf y geifr (garlleg gwyllt) a chlychau’r gog.
Mae Gwartheg yr Ucheldiroedd yn ysgafn ar eu traed ac yn pori pob twll a chornel yn y coetir. Sylwch ar y gwahaniaeth rhwng y tir ar y chwith â ffens o’i gwmpas lle na fu pori a'r tir lle bu'r gwartheg yn pori ar y dde.