
Mae Dinas Oleu yn lle arbennig iawn i lawer; ar un adeg, bu’n gartref i Auguste Guyard ac arloeswyr yn cynnwys Mrs Fanny Talbot. Cewch wybod sut y bu i’r llethrau uwchlaw Abermaw ysbrydoli cynifer o bobl, a sut y mae’n dal i wneud hynny heddiw.
Daeth Auguste Guyard i Brydain gyda’i ferch yn 1871 ar ôl ffoi o warchae Paris yn ystod Rhyfel Ffrainc a Phrwsia. Treuliodd weddill ei oes yn gofalu am y llethrau, yn plannu perlysiau, blodau a llysiau. Ei ddymuniad olaf oedd cael ei gladdu ar y llethrau lle treuliodd gymaint o’i amser.
Arloeswyr eu cyfnod
Ar 29 Mawrth 1895, daeth Dinas Oleu yn eiddo i ni – y darn cyntaf o dir y byddem yn ei warchod am byth, i bawb. Rhoddwyd y 4.5 erw o dir gan Mrs Fanny Talbot, tirfeddiannwr eithaf cefnog, cymwynaswraig a ffrind i Octavia Hill a’r Canon Hardwicke Rawnsley, dau o’n sefydlwyr.
Ond nid Dinas Oleu oedd y darn cyntaf o dir i Mrs Fanny Talbot ei roi’n rhodd. Yn 1874, rhoddodd ddeuddeg bwthyn a 4.5 erw o dir i brosiect y beirniad celf dylanwadol, John Ruskin, The Guild of St George.
Rhoddodd John Ruskin gartref i Auguste Guyard; un o’r bythynnod a gafodd gan Mrs Fanny Talbot, rhif 2, Rock Gardens. Roedd Guyard wedi ceisio creu ‘commune modele’ yn Frotey-Les-Vesoul, y pentref lle ganed ef yn 1808. Roedd ei amcanion yn debyg iawn i rai John Ruskin.
Roedd Guyard yn cael ei nabod yn yr ardal fel Y Ffrancwr a threuliai ei amser yn cerfio terasau lle'r oedd yn tyfu llysiau, perlysiau a phlanhigion llesol ac yn eu rhannu â phobl dlawd. Roedd yn un da gydag anifeiliaid hefyd a llwyddodd i ddofi hebog a jac-do.
Bu farw Guyard yn 1882 a’i gladdu ar ddarn o dir muriog ger Dinas Oleu. Roedd wedi cyfansoddi ei feddargraff ei hunan. Yn ddiweddar, cafodd ei gyfieithu o’r Ffrangeg i'r Saesneg a’r Gymraeg a’i ddangos ar blac gerllaw.
"Here lodged a sower who,
To his grave, sowed the seeds,
Of truth, of right, of beauty,
With obsession.
In a thousand struggles,
With pen and body,
Such labours are not rewarded,
In this world."
Frenchman’s Grave
Dinas Oleu - "Fortress of Light"