Roedd angen gwaith adfer sylweddol iawn ar y ffermdy hanesyddol ac adeiladau fferm y buarth, sydd ar gofrestr Gradd II. O ail-doi i wyngalchu waliau i glirio gwastraff ac ail-adeiladu llwybrau coblog, roedd yna fwy na digon i gadw’r tîm yn brysur.
Yn ystod y gwaith, fe ddaethon nhw o hyd i rywbeth pwysig, sef darn hynod o graffiti Fictoraidd ar wal atic y ffermdy. Credir ei fod yn cyfeirio at ddyletswyddau pedwar o’r gweision fu’n pluo 26 o wyddau yn Rhagfyr 1878.
Yn dilyn gwaith caled iawn gan staff, gwirfoddolwyr a grwpiau gweithio gwyliau, mae’n bleser mawr i ni fod y ffermdy wedi ei adnewyddu ac mae ein tenantiaid bellach yn ei redeg fel Gwely a Brecwast Fferm Southwood.