Adfer cynefinoedd
Un o’n cyflawniadau mwyaf fu ail-gyflwyno dros gilomedr o gloddiau traddodiadol Sir Benfro o gwmpas y fferm, gan ddod nôl â’r caeau bychain a ehangwyd yn yr 20ed ganrif.
Fe noddwyd y cloddiau gan Ymddiriedolaeth SITA ac mae adfer y cynefin coll hwn wedi bod yn amhrisiadwy i fywyd gwyllt. Ry’n ni wedi gweld adar tir fferm yn dychwelyd, ystlumod yn defnyddio’r safle i glwydo a digonedd o bryfed ac anifeiliaid cloddio yn mwynhau’r banciau priddlyd.
Mae’r llystyfiant lawn mor gyfoethog hefyd, ac mae rhywogaethau fel dail ceiniog, clatsh y cŵn, draenen wen a blodyn taranau i’w gweld bellach yn y rhwydwaith o gloddiau.