Taith o fôr i fôr ar Stad Southwood
Dewch i fwynhau golygfeydd arfordirol eang, ffermdir sy’n llawn o fywyd gwyllt a choedwigoedd hyfryd ar y gylchdaith hon o amgylch traeth Neigwl.

Dechrau:
Maes parcio Maidenhall, cyf grid: SM857202
1
Gan gychwyn o faes parcio Maidenhall (map Landranger 157 yr Arolwg Ordnans, SM857202), croeswch y ffordd a throi i’r chwith drwy’r giât i’r cae, gan ddilyn ochr y cae. Pan nad yw’r caeau’n cael eu defnyddio i dyfu ceirch a phlanhigion âr prin, maen nhw’n cael eu pori gan ddefaid.
2
Ewch ymlaen drwy’r giât fetel ac ar hyd ochr y cae nesaf, gan ddilyn yr arwyddbyst. Byddwch yn mynd heibio un o’n cloddiau sydd newydd gael ei greu yn y cae âr – ry’n ni’n dychwelyd dros 1km o’r cynefin hwn i’r fferm diolch i grant gan gronfa Cyfoethogi Natur Ymddiriedolaeth SITA. Southwood yw enw’r fferm fawr yn y pellter ar y llaw dde. Ar y gornel ar waelod y cae mae giât fach bren – ewch drwyddi a dilynwch ochr y cae isaf o gwmpas i’r chwith.
3
Dilynwch yr arwyddbyst i gyrraedd giât fach bren yn y ffens. Mae’r llwybr yn mynd i lawr y llethr o redyn a chlychau’r gog nes cyrraedd pont ar draws y nant ar y gwaelod. Rydych bellach yn croesi i dir fferm Southwood. Efallai y bydd defaid yn y cae hwn.
4
Ewch i lawr llethr a thrwy gât ger nant fas. Ewch i mewn i’r goedwig a throi i’r chwith gan anelu tuag at y môr. Wrth ochr man croesi’r nant mae coeden onnen fawreddog, wedi ei gorchuddio â mwsogl, rhedyn a chennau. Dyma un o’r coed llawn cymeriad sydd yn y goedwig hon.
5
Dilynwch yr arwyddbyst ar draws y cae y tu hwnt i’r goedwig, a chroesi cwm bach gyda nant fechan cyn dringo i’r cae nesaf, a mynd drwy dir corsiog i gyrraedd giât fetel ar ffin y cae. Yna mae’r llwybr yn anelu am yr arfordir ar hyd coridor wedi ei ffensio.
6
Wrth i chi groesi i Pinch Hill ry’ch chi’n gadael tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ewch o gwmpas ymyl chwarel fechan a dilynwch y llwybr tua’r gogledd, ar y llaw dde, a dod i lawr y llethr arfordirol i gyrraedd y maes parcio canol yn union y tu ôl i draeth Neigwl.
7
Ewch yn ôl ar hyd yr heol neu, os yw’r llanw’n caniatáu, ar hyd y traeth neu’r bancyn o ro.
8
Manteisiwch ar y caffi a’r toiledau cyhoeddus ym maes parcio Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ar ben deheuol traeth Neigwl cyn dringo’r bryn ar hyd yr hewl.
9
Dilynwch lwybr yr arfordir oddi ar y ffordd hon. Byddwch yn dod eto at dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth y giât fach nesaf sy’n cael ei hagor â llaw. Yn achlysurol mae’r tir ar ben y clogwyni o amgylch Pwynt Maidenhall yn cael ei bori gan ein merlod a’n gwartheg er mwyn cadw’r llystyfiant mewn cyflwr da ar gyfer bywyd gwyllt.
10
Daliwch i fynd ar hyd llwybr yr arfordir gan anelu tua’r de cyn troi i’r chwith tua’r tir. Mae’r llethr arfordirol yma’n llawn pantiau bach – gweddillion gwaith glo Fictoraidd. Ewch drwy giât fach bren ac ar draws y weirglodd blodau gwyllt er mwyn dychwelyd i faes parcio Maidenhall.
Diwedd:
Maes parcio Maidenhall, cyf grid: SM857202