Mae’r siop yn cynnig dewis hyfryd o gynhyrchion Cymreig lleol a rhoddion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae yma amrywiaeth dda o eitemau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Yr Ardd a’r Awyr Agored, ynghyd a llu o anrhegion, cardiau, llyfrau ac ategolion.
Heb anghofio’r plant wrth gwrs; ry’n ni’n gwerthu peth o’r offer angenrheidiol i gyflawni heriau y 50 peth gwych i’w gwneud cyn cyrraedd 11 ¾. Galwch mewn i weld a allwn ni eich helpu i roi tic mewn sawl bocs ar eich rhestr.
Canllaw rhyngweithiol
Yn ystod eich ymweliad â Chanolfan Ymwelwyr a Siop Tyddewi, mwynhewch ein canllaw rhyngweithiol i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Benfro, a dysgwch am ein eiddo, ein traethau a’n llwybrau. Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, dyma ffordd wych i weld beth sydd gan yr ardal i’w gynnig.
Ymaelodwch
Gallwch ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd, dim ond i chi ofyn i’n staff am fwy o fanylion. Fel aelod bydd hawl gyda chi i fwynhau mynediad rhydd a rhwydd i dros 500 o leoedd arbennig ledled Prydain.