Mae’r Stryd Fawr yn gartref i Ganolfan Ymwelwyr a Siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ynghyd â chasgliad o boutiques, siopau annibynnol ac orielau. Ewch am dro o amgylch dinas leiaf Prydain i weld pa roddion a rhyfeddodau sy’n eich aros.
Mae marchnad leol dymhorol hefyd i chi gael sbrotian, bob dydd Iau ar Sgwâr y Groes rhwng Mawrth a Hydref, a dan do yn Neuadd y Ddinas o fis Tachwedd.
Wedi siopa nes bod eich traed yn dwll, gallwch gymryd hoe fach a mwynhau gweld y byd yn mynd heibio yn un o’r caffis neu fwytai ar strydoedd y ddinas. Neu, cerwch am dro bach i Gadeirlan Tyddewi a dysgu mwy am nawddsant Cymru.