Mae plant yn dwlu ar ein rhaglen amgylcheddol a’n rhaglen weithgareddau i ysgolion! Mae llwyth o wahanol weithgareddau cyffrous i’ch denu ac fe fydd ein staff profiadol wrth law i sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o’ch amser gyda ni.
Rhaglen o weithgareddau sy’n addas i’ch ysgol chi
Pecyn gwybodaeth
Oes ‘na gyfleusterau ‘stafell ddosbarth ar gael?
Oes, mae ystafell ddosbarth Aderyn Drycin yn cynnig bwrdd gwyn rhyngweithiol a’r cyfarpar clyweledol diweddaraf. Mae’n ystafell hyblyg ar gyfer cynnal cyfarfodydd, seminarau, gweithdai a chyrsiau ac mae hefyd yn gweithio’n dda fel ystafell ddosbarth i ysgolion a phrifysgolion. Gall ein tîm arlwyo ar y safle baratoi lluniaeth a chinio bwffe i chi.
Pam ddylen ni ddewis y ganolfan?
Ry’n ni wedi bod yn cynnal ac yn arwain ymweliadau preswyl ers 1983. Ein nod yw sicrhau bod pawb sy’n dod i Ganolfan Addysg Awyr Agored Stagbwll yn cael eu ysbrydoli gan yr awyr agored wrth ddysgu am ein harfordir rhyfeddol hefyd.
Beth yw barn ysgolion eraill?
Dyma enghraifft o’r math o ymateb ry’n ni’n ei gael gan ysgolion sy’n dod i’r Ganolfan:
" Thank you for all the wonderful programming that you develop for our students. They LOVE going to Stackpole and return to London full of stories, a sense of excitement and wonder, and a new appreciation for the British countryside and coast. Thank you for all you do. It is just wonderful."