
Mae Caffi’r Boathouse yn fan poblogaidd i fwyta, yn ffefryn gyda’r bobl leol yn ogystal ag ymwelwyr. Mae’r caffi mewn lleoliad trawiadol yng Nghei Stagbwll ac mae’n lle gwych i eistedd a gwylio’r tonnau’n torri’n dyner ar gerrig y traeth.
Melys a sawrus
Mae digon o fwyd da, maethlon yma, yn cynnwys ffefrynnau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol megis tatws trwy’u crwyn, cinio’r gwerinwr, cawl cartref a phaninis. Wrth gwrs, mae te hufen traddodiadol yn rhan hanfodol o bob un o gaffis yr Ymddiriedolaeth ac ry’n ni’n gweini un o’r rhai gorau!
Cadw’n lleol
Ry’n ni’n gwneud ymdrech arbennig i sicrhau bod ein cynnyrch yn dymhorol, yn lleol ac yn ffres. Pan fyddwch yn bwyta gyda ni, fe gewch flas go iawn o Sir Benfro.
Llecyn delfrydol
Gan ei fod yn hawdd i’w gyrraedd gyda char neu ar droed o unrhyw un o’n meysydd parcio ar yr ystâd, mae Cei Stagbwll yn ganolbwynt cyfleus i gerdded llwybr yr arfordir. Mae Caffi’r Boathouse hefyd wedi hen sefydlu’i hun fel hafan fach i gerddwyr ac anturwyr.
Oriau agor
Dewch i weld a blasu
Mae ein bwydlen yn newid yn aml a’n nod yw cynnig croeso cynnes i bawb sy’n mentro draw. Mae Caffi’r Boathouse yn lle gwych i bawb – boed yn ffrindiau sy’n cwrdd am baned a chacen, cerddwyr yn ymochel rhag y tywydd neu deulu cyfan yn dod allan am ginio neu de prynhawn.