Chwefror 2019 yn Stagbwll

Woodland work at Stackpole

Mae’n teimlo megis ddoe ers i fi bostio fan hyn ddiwethaf, ond wrth sylweddoli bod bron i fis wedi llithro heibio mae’n tanlinellu sut mae ein cyfnod o amser ar gyfer gwaith cadwraeth y gaeaf yn prysur ddirwyn i ben. Gan hynny, ry’n ni wedi treulio tipyn o amser yn ystod yr wythnosau diwethaf yn Caroline Grove, sef coedlan rhwng braich ddwyreiniol y llynnoedd a’r ffordd i bentref Stagbwll.

Clirio rhywogaethau ymledol

Ein nod gyntaf yn Caroline Grove oedd mynd i’r afael â’r Llawr-geiriosen, a oedd wedi dechrau lledu’n dipyn o fforest. Trwy dorri nôl, di-wreiddio a llosgi, ry’n ni wedi llwyddo i glirio’r ardal hon yn dda, ac er bod y ddaear yn edrych braidd yn noeth nawr, fe fydd yn glasu wrth i’r gwanwyn ddod gobeithio.

Mae’r Llawr-geiriosen yn rhywogaeth ymledol tu hwnt. Fe’i plannwyd ar y stad amser nôl ar gyfer effaith addurniadol ac i roi lloches i greaduriaid ac adar hela, ond bellach mae wedi troi yn ddihiryn gwyllt ac mae ei dyfiant trwchus a’i ddail cysgodol yn tueddu i drechu y rhywogaethau cynhenid. Mae hefyd yn dal ei dir yn gadarn iawn a mae llawer o’r planhigion ry’n ni newydd eu clirio wedi eu torri a’u trin o’r blaen.

Gwaith coedwigo yn parhau

Mae’r ail dasg sydd gennym ar y gweill yn Caroline Grove yn gyfnod o newid cyffrous i goedwigoedd y stad, wrth i ni fynd ati’n raddol fach i adfer ardaloedd o hen goedwigoedd hynafol lle plannwyd planhigfeydd coniffer yn ystod ail hanner yr 20ed ganrif.

Wrth i Brydain godi nôl wedi’r rhyfel, fel blannwyd llawer o blanhigfeydd coniffer ar ben coedwigoedd cynefin o goed collddail, gyda chymorth arian cymhorthdal y llywodraeth. Fodd bynnag, ʼdoedd llawer o’r blociau yma o goniffer ddim yn ymarferol, naill ai oherwydd trafferthion mynediad neu am eu bod yn rhy fach i fod yn economaidd, ac o ganlyniad chawson nhw erioed eu teneuo na’u cynaeafu.

Felly dyma ni heddiw yn Caroline Grove, lle mae gweddillion planhigfa di-reolaeth o Gegid y Gorllewin wedi bod yn gwasgu ar goed ifanc derw, onnen, castan a ffawydd a dyfodd o weddillion y genhedlaeth flaenorol o goed collddail a safai yma gynt.

Nawr bod y gwaith bron ar ben, ry’n ni wedi gwared tua 150 Cegid y Gorllewin, gan greu gofod i rywogaethau llydanddail cynhenid sy’n dal yno i ffynnu. Wrth ganiatáu mwy o oleuni, bydd planhigion yn y pridd, yn flodau a hadau coed, yn gallu blaguro, gan arwain at well amrywiaeth rhywogaethol yn y goedwig hon mewn blynyddoedd i ddod. Ry’n ni wedi gadael rhai o’r coed Cegid mwyaf amlwg, yn rhannol am eu bod yn adrodd pennod yn stori Stad Stagbwll, ond hefyd am eu bod, ar ffurf coeden aeddfed agored, yn goed digon bonheddig.

Plethu helyg a phŵer y bobl

Yn nechrau mis Chwefror, a hithau’n ddydd Mawrth gwlyb a niwlog, fe ddaeth torf luosog o griw gwirfoddolwyr Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i gynorthwyo gyda tasg a oedd wedi ʼnghyffroi i. Dechreuodd ein dydd yng nghoedwigoedd Kings Mill, ger Castellmartin, lle ry’n ni wedi bod yn prysgoedio helyg a gwern gyda’n ffrindiau o 21c Sir Benfro dros y chwe mlynedd ddiwethaf. 

Nawr bod peth o dyfiant newydd y stwmpiau a brysgoediwyd yn dechrau tyfu mas dros y llwybr, roedd angen i ni dorri nôl y brigau hir, syth o helyg. Yn ogystal ag agor y llwybr a gadael goleuni mewn i’r daith drwy’r goedwig, byddai’r chwipiau hyn yn darparu’r deunydd ar gyfer ail ran y gwaith.

Aethon ni â’n polion yn syth i’r guddfan adar ar y ddôl yn Fferm Gupton, yn barod i ‘blannu’ ein ffens o helyg byw. Er yr amodau gwlyb, fe frwydrodd y gwirfoddolwyr ymlaen ac yn fuan fe feistrolon nhw y dechneg o sodro’r polion talsyth yn y ddaear wlyb, cyn ychwanegu’r croeslathau ar letraws, a fydd yn rhoi trwch a chryfder i’r ffens. Yn ogystal â darparu cynefin a chysgod i fywyd gwyllt, bydd y sgrîn yn galluogi ymwelwyr â’r guddfan adar i agosáu heb hala ofn ar yr adar yn y gwely brwyn.

Paratoi at y gwanwyn

Gyda’r mis olaf cyn bod y gwanwyn go iawn ar y trothwy, byddwn nawr yn canolbwyntio ar orffen tasgau’r gaeaf ac edrych ymlaen at sicrhau fod y stad yn edrych ar ei gorau yn barod ar gyfer y tymor i ddod.