Coedwigoedd a blodau gwyllt arfordir Stagbwll

Golwg agosach ar degeirian bera yn Stagbwll

Darganfyddwch goedwigoedd eang Stagbwll, lle mae’r mwyafrif o goed tua 200 mlwydd oed. Neu anelwch am yr arfordir i fwynhau sioe wych o flodau ar ben y clogwyni , yn y twyni ac ar y traethau.

Blodau arfordirol

Ym mis Mai, mae Pentir Stagbwll a Saddle Point yn troi’n fôr o las wrth i seren y gwanwyn flodeuo. Mae’r traethau a’r twyni yn cynnal planhigion arbenigol sy’n gallu goroesi dan amodau sych a hallt, fel celyn y môr ac ysgedd arfor.

Mae Stagbwll yn llawn lliw pan ddaw‘r tegeirianau i’w blodau – mae sawl math gwahanol yn tyfu yma, o degeirian coch y gwanwyn i droellig yr hydref. Edrychwch am degeirian y wenynen a thegeirian bera ymysg y twyni, a thegeirian y gors yn y mannau llaith, tywodlyd tu ôl i South Broadhaven a Freshwater West.

Mae Stagbwll yn arbennig am gen y pridd, sydd i’w canfod ar rai o’r priddoedd mwyaf tenau a sych ger yr arfordir, lle gaiff y llystyfiant cystadleuol ei gadw dan reolaeth trwy ei bori a’i wasgu dan draed. Mae’r cen wy-wedi-sgramblo yn edrych yn union fel y mae ei enw’n awgrymu!

Rhyfeddodau’r coetir

Dewch i edmygu coetir rhyfeddol Stagbwll sy’n gyfuniad o goedwigoedd gwlyb ar ben draw Llynnoedd Bosherston ac ardaloedd eang o goetir cymysg.

Mae’r mwyafrif o’r coed sydd yma yn llai na 200 mlwydd oed, llawer ohonyn nhw wedi’u plannu gan deulu’r Cawdor, a fu’n gyfrifol am dirlunio’r dirwedd ac a fu’n byw yn Llys Stagbwll.

Mae’r coed hyn yn cynnwys y ffawydd a’r castanwydd pêr anferth a hefyd nifer o goed a llwyni a gasglwyd o bedwar ban byd. Mae rhai o’r rhain erbyn hyn yn achosi problem i ni gan eu bod wedi ymledu ymhell tu hwnt i’r mannau lle caswon nhw eu plannu ar y dechrau (rhai fel llawryf, gwyddfid Himalaya a’r dderwen fytholwyrdd).

Ewch am dro o amgylch coed Park Lodge
Llwybr trwy’r coetir yng nghoedwig Park Lodge

Cymysg fu hynt a helynt y coedwigoedd yn ystod yr 20fed ganrif.

Yn y 1960au, plannwyd ardaloedd helaeth gyda choed coniffer, ond mae’r rhain bellach yn cael eu clirio’n raddol ac mae coed llydanddail brodorol yn cymryd eu lle – coed fel yr onnen, y dderwen, ac yn gynyddol, y sycamorwydden.

Mae’r sycamorwydden yn deilio’n gynnar ac felly’n ffafrio’r planhigion hynny sy’n blodeuo’n gynnar - megis clychau’r gog, briallu a chraf y geifr - a’n cymunedau gwych o redynau, sy’n hoffi tyfu mewn amodau cysgodol. Y rhain, yn bennaf, sy’n rhoi i goedwig Stagbwll ei golwg nodweddiadol.