Hanes Ystâd Stagbwll

Llun hanesyddol o Lys Stagbwll

Mae’n anodd dychmygu’r adeiladau niferus fu unwaith yn sefyll ar safle Llys Stagbwll dros y canrifoedd. Bu pobl yn byw yma ers cyfnod y Normaniaid ac fe welodd Ystâd Stagbwll ei chyfran o ffyniant a methiant dros yr oesoedd.

Ymysg rhai o’r teuluoedd fu’n berchen â Stackpole yn y gorffennol yr oedd teuluoedd de Stackpole, Vernon a Stanley. Ry’n ni’n gwybod ychydig am deulu Lort, fu’n asiantwyr i deulu’r Stanley. Prynwyd yr ystâd ganddyn nhw yn yr 17eg ganrif.

Rhyfel cartref a herio marwolaeth

Brenhinwyr oedd teulu’r Lort, gan ochri gyda’r Brenin Siarl I yn Rhyfel Cartref Lloegr. Ymhen fawr o dro, â’r Brenhinwyr yn colli, fe ddaeth Stagbwll dan warchae gan y Seneddwyr. Yn ôl y chwedl, cuddiodd Roger Lort mewn ogof ger Bae Barafundle er mwyn osgoi cael ei ddal. Wedi gwarchae byr, fe ildiodd teulu’r Lort.

Stagbwll yn ffynnu dan deulu’r Cawdor

Elizabeth Lort oedd aeres Ystâd Stagbwll ac fe briododd Alexander Campbell ym 1689. Roedd Alexander yn gyfaill prifysgol i frawd Elizabeth, Gilbert. Tra’n ymweld â brawd Elizabeth yn Stagbwll, syrthiodd Alexander ac Elizabeth mewn cariad.

Adeiladodd teulu’r Campbell blasty Sioraidd cynnar Llys Stagbwll yn y dull Paladaidd yn y 1730au ar safle’r tŷ caerog cynharach.

Etifeddwyd yr ystâd yn 1777 gan Syr John Campbell a dechreuodd ar waith tirlunio anferthol. Boddwyd ardal a fu unwaith yn ddyffryn i greu Llynnoedd Bosherston, fel rhan o dirwedd wedi’i chynllunio, a phlannwyd miloedd o goed.

Dirywiad  a chwymp ystâd aruchel

Gyda dyfodiad dau ryfel byd, profodd Stagbwll ganrif o ddirywiad. Cafodd hanner yr ystâd, oddeutu 6,000 erw, eu hawlio gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn i ffurfio Maes Tanio CastellMartin yn 1938.

Fe letyodd milwyr yn Llys Stagbwll gan achosi difrod enfawr i’r tŷ trwy stripio’r plwm o’r to, gan achosi pydredd sych a gwlyb. Er tristwch, fe ddymchwelwyd y tŷ yn y pendraw ym 1963.

Tair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, fe rannwyd yr hyn oedd yn weddill o’r ystâd hanesyddol hon a gwerthwyd y ffermydd. Diolch byth, fe drosglwyddwyd yr arfordir, y coedwigoedd a’r llynnoedd i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’u diogelu i’r genedl.