Llinell amser stad Stagbwll

Llun hanesyddol o Lys Stagbwll

O feini hirion yr Oes Efydd i batrymau caeau a chaerau pentiroedd arfordirol, mae tirwedd Stagbwll yn frith o olion gweithgarwch dynol, sy’n creu darlun diddorol iawn i ni o orffennol y gornel fach hon o Gymru

Yr Oes Efydd: 3,000 CC

O’r cyfnod hwn y daw’r olion cynharaf o weithgarwch dyn yn Stagbwll. Mae yma faen hir a siambr gladdu yn dyddio’n ôl i’r Oes Efydd. A fedrwch chi gael hyd i Goeten y Diafol yng Nghwningar Stagbwll? Ar un adeg tybiwyd bod hwn yn fan claddu, ond credir bellach ei fod wedi bod yn fan cyfarfod seremonïol.

Yr Oes Haearn: 3,000 CC

Adeiladodd pobl yr Oes Haearn gaerau arfordirol i’w hamddiffyn rhag ymosodiadau. Ry’n ni’n ffodus iawn fod dwy gaer yma yn Stagbwll. Mae Greenala ar yr arfordir rhwng Cei Stagbwll a Freshwater East. Roedd Caer Fishpond ar yr arfordir ar un adeg, ond ddim bellach.

Y cyfnod Romano-Brydeinig: 400 OC

Mae safle’r anheddiad Romano-Brydeinig yn dangos olion lloc ar gyfer da byw a chylchoedd o gytiau. Fe fyddai’r ardal wedi edrych yn dra gwahanol - dim llynnoedd a dim coed pinwydd. Mae’n debyg y byddai llawer o gaeau bychain o fewn waliau carreg amrwd wedi bod yma bryd hynny.

Y cyfnod Normanaidd: 1188 OC

Perchennog cynharaf Stagbwll, i ni wybod amdano, oedd Elidyr de Stackpole. Soniodd Gerallt Gymro amdano yn 1188. Ceir cofeb iddo yn Eglwys Stagbwll Elidyr. Yr hyn a adawodd y Normaniaid yw’r patrwm o bentrefi ac eglwysi cyfagos sydd i’w gweld heddiw. 

Y Canol Oesoedd a’r cyfnod Tuduraidd: 1300-1600

Pasiodd yr ystâd trwy briodas o deulu’r de Stackpole trwy deuluoedd Vernon a Stanley. Ffermiwyd cwningod, a gyflwynwyd gan y Normaniaid, ar Gwningar Stagbwll. Dydyn ni ddim yn gwybod p’run ai ar gyfer pleser hela neu fel ffynhonnell o fwyd yr oedd y cwningod yn cael eu hela.

Teulu’r Lort: 1611-1689

Stiwardiaid teulu Stanley oedd teulu Lort yn wreiddiol. Prynwyd yr ystâd ganddyn nhw yn 1611. Wedi i Lys Stagbwll ddod dan warchae yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, roedd yn rhaid i Roger Lort guddio mewn ogof ger Barafundle.

Cyfnod teulu’r Cawdor – y blynyddoedd cynnar: 1689-1780

Etifedd teulu Lort oedd Elizabeth, ac fe ddaeth y stad i ddwylo’r teulu Cambell pan briododd hithau gydag Alexander Campbell ym 1689. Aethant ati i adeiladu Llys Stagbwll newydd yn 1735. Roedd Parc Ceirw cyntaf teulu’r Cawdor i’r gogledd o’r tŷ, sy’n rhan o Fferm Bangeston heddiw.

Stagbwll ar ei anterth: 1780-1914

Rhwng 1780 a 1914, bu teulu’r Cawdor yn cynllunio’r dirwedd, yn cynnwys creu’r llynnoedd. Ymestynnwyd y tŷ yn yr 1840au. Daeth yr ardal rhwng y llynnoedd a Chei Stagbwll yn Barc Ceirw Newydd, ond nid oes ceirw yno bellach.

Yr Ail Ryfel Byd a dirywiad: 1914-1976

Gyda’r ddau Ryfel Byd fe ddirywiodd yr ystâd. Hawliwyd tir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a’i droi’n faes tanio i’r Fyddin. Dymchwelwyd Llys Stagbwll gan deulu’r Cawdor yn 1963, ar ôl i’r tŷ fynd â’i ben iddo yn ystod ac yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: 1976 hyd at y presennol

Daeth Stagbwll i feddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1976. Ers i’r ystâd fod o dan ein gofal, ry’n ni wedi agor y tir i’r cyhoedd fel bod pawb yn cael mwynhau’r lle arbennig hwn.