Pyllau Lili Bosherston – taith hudolus Freshwater
Taith hawdd o amgylch pyllau lili hardd Bosherston, gyda phosibiliadau pellach i grwydro’r twyni a phyllau ‘Mere Pool Valley’ y tu ôl i draeth Broadhaven. Mae’r daith ar lwybrau gro gwastad yn bennaf gyda dwy sarn gul. Mae digonedd o fywyd gwyllt i’w weld drwy’r flwyddyn ar y daith hon.

Dechrau:
Maes parcio Pyllau Lili Bosherston, cyf grid: SR966948
1
O’r maes parcio trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr at y llyn. Trowch i’r chwith.
Pyllau Lili Bosherston
Roedd pyllau Bosherston yn rhan o’r tirlun a gynlluniwyd fel cefndir i Gwrt Stagbwll.

2
Ewch ar draws braich orllewinol y llyn ger sarn Bosherston. Mae’r lilïau dwr ar eu gorau ym mis Mehefin a Gorffennaf, ond mae’r llynnoedd a’r coedwigoedd ar hyd eu glannau’n llawn bywyd gwyllt drwy’r flwyddyn.
Lilïau dwr
Yn gynnar yn yr haf mae cannoedd o lilïau dŵr yn blodeuo ar y llyn.
3
Dilynwch y llwybr i fyny i’r clogwyn calchfaen. Edrychwch i lawr i’r dŵr clir i weld y carpedi o rawn yr ebol prin ac, os byddwch yn ffodus, penhwyad yn aros i ymosod ar ei ysglyfaeth. Mae llwybr drwy’r llwyni ar eich llaw chwith yn arwain i fyny at ‘Fishpond Camp’, hen gaer arfordirol a sefydlwyd 3,000 mlynedd yn ôl pan oedd y llynnoedd yn gilfach lanwol.
4
Ewch ymlaen i lawr at y sarn ganolog ac ewch drosti.Rhwng mis Ebrill a mis Medi chwiliwch am weision neidr a mursennod, gyda gwenoliaid a gwenoliaid y bondo’n gwibio uwchben.
Adar dŵr
Yn y gaeaf chwiliwch am yr hwyaden lygad aur – mae’r hwyaden blymio hon yn treulio’r gaeaf ar fraich ganolog y llynnoedd.
5
Trowch i’r dde yn y gyffordd nesaf ac ewch i lawr i’r Bont Welltog. Pan grëwyd y llynnoedd yn yr 1780au hwn oedd yn gwahanu’r llyn dŵr croyw a’r môr – chafodd yr argae terfynol ddim mo’i godi hyd 1860.
Amddiffynfeydd môr
Pan fydd yn benllanw uchel iawn mae dŵr y môr yn uwch na’r llynnoedd y tu ôl i’r argae.
6
Ewch ymlaen tuag at y môr. Yn y gaeaf efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld (a chlywed) aderyn y bwn. Gwrandewch hefyd am wichiad rhegen y dŵr sy’n debyg i sŵn mochyn. Adar swil yw’r rhain sy’n byw yn yr hesg.
Telorion
Yn yr haf mae’r gwely cyrs ar eich llaw de’n llawn o delorion y cyrs a thelorion yr hesg swnllyd.
7
Croeswch allanfa’r llyn ar bont garreg gul (byddwch yn ofalus mewn sandalau) ac ewch ymlaen i’r dde i fyny llwybr glan y llyn tuag at Bosherston. Gallwch hefyd fynd ymlaen i’r traeth, gan gadw i’r dde er mwyn archwilio bywyd gwyllt Mere Pool Valley.
Mere Pool Valley
Dyma le gwych i weld gweision neidr a mursennod.
8
Dychwelwch i’r maes parcio ar lwybr y fraich orllewinol, gan aros yn aml i fwynhau’r bywyd gwyllt. Efallai y gwelwch chi ddwrgi.
Dyfrgwn yn Stagbwll
Mae dyfrgwn yn greaduriaid swil iawn. Mae angen i chi fod yn ddistaw – a ffodus – i weld grŵp teuluol.

Diwedd:
Maes parcio Pyllau Lili Bosherston, cyf grid: SR966948