Taith cyfrinachau Cwrt Stagbwll
Dewch i grwydro’r dirwedd a’r parcdir rhyfeddol a gynlluniwyd gan y teulu Cawdor fel cefndir ar gyfer eu plasty moethus, Cwrt Stagbwll, a gafodd ei ddymchwel yn 1963.

Dechrau:
Maes parcio Cwrt Stagbwll, cyf grid: SR976963
1
Ewch ar draws y Bont Un Bwa o heol Stagbwll a pharciwch gerllaw’r cylch troi.
2
Cerddwch ar draws y maes gwyrdd o’ch blaen at y teras er mwyn mwynhau’r olygfa ryfeddol i lawr at y llyn. Gallwch weld Pont yr Wyth Bwa, a’r Parc Ceirw ar ochr arall y llyn (er na fu ceirw yma ers y Rhyfel Byd Cyntaf).
Yr olygfa i lawr at y llyn
O’r teras cewch olygfa fendigedig tuag at lyn Pont yr Wyth Bwa.
3
Ewch yn ôl ac i mewn i Lodge Park. Cewch ddewis eich llwybr eich hun o blith y rhwydwaith o lwybrau drwy’r goedwig, ond chwiliwch am y prif nodweddion wrth i chi grwydro o gwmpas. Yn gyntaf mae’r tŷ haf, a fyddai wedi bod yn amlwg drwy’r coed o’r Cwrt.
Y tŷ haf
Adeiladwyd y tŷ haf fel nodwedd yn y dirwedd, rhywbeth i ddenu’r llygad wrth edrych draw o Gwrt Stagbwll
4
Ewch i mewn i’r ardd flodau furiog drwy un o’r bylchau yn y wal. Plannwyd yr ardal hon gyda gwelyau blodau tan y Rhyfel Byd Cyntaf.
5
Chwiliwch am y sedd garreg. Allwch chi ddod o hyd i’r coed ginco gerllaw?
6
Cewch hyd i’r ty iâ ar ymyl allanol y goedlan. Pydew dwfn (14 troedfedd/14.3 metr) yw hwn; byddai wedi cael ei leinio gyda cherrig a’i stwffio â haenau o wellt a’i bacio gyda rhew ar gyfer cadw bwyd. Heddiw mae ystlumod yn ei ddefnyddio.
7
O safle’r Cwrt mae stepiau serth yn arwain i lawr i’r Bont Cudd. Cynlluniwyd y gored a’r sarn lle fel y gallai unrhyw un oedd yn gwylio o’r Bont Un Bwa’n gweld pobl yn croesi’r sarn hwn ac ymddangos fel pe baen nhw’n cerdded ar y dŵr.
Y Bont Gudd
O bell, mae cynllun y bont hon yn gwneud i bobl ymddangos fel pe baen nhw’n cerdded ar ddŵr.
8
Gallwch adael Lodge Park yn y fan hon i ymweld â’r ardd furiog. Ar un pryd defnyddiwyd y gerddi muriog anferth yma i dyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer Cwrt Stagbwll (ac ar gyfer cartrefi’r teulu Cawdor yn Llundain a’r Alban). Heddiw fe’u defnyddir gan Mencap sy’n tyfu bwyd i’w werthu. Cewch groeso ganddyn nhw ac efallai y byddwch yn mynd adref gyda chynnyrch ffres o Stagbwll.
9
Dychwelwch i’r maes parcio ar hyd unrhyw un o’r llwybrau nad ydych eto wedi eu cerdded.
Diwedd:
Maes parcio Cwrt Stagbwll, cyf grid: SR976963